Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


052 Fferm y Gurnos a Bunker's Hill


HLCA 052 Fferm y Gurnos a Bunker's Hill Tirwedd amaethyddol o gaeau amaethyddol a choediog rheolaidd (rhai afreolaidd) wedi'u gwella o faint canolig-mawr yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau'r 19eg ganrif; fferm ystad fodel (y Gurnos), a nodweddion amaethyddol cyfoes; caeau â waliau sych o bob tu iddynt; safle anheddiad gwledig anghyfannedd Pantton; coridor trafnidiaeth. Ffyrdd a thramffyrdd, gan gynnwys llwybr Ffordd Rufeinig.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 052)

Ardal gymeriad Fferm y Gurnos a Bunker's Hill: tirwedd amaethyddol o gaeau rheolaidd o faint canolig-mawr a gynlluniwyd.

Crynodeb

Tirwedd amaethyddol yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a nodweddir yn bennaf gan gaeau rheolaidd, gweddol fawr a gynlluniwyd â waliau sych o'u hamgylch, sydd wedi'u canoli ar y fferm ystâd fodel yn y Gurnos. Ymddengys i anheddiad anghyfannedd yn Pantton gael ei glirio i wneud lle ar gyfer gwelliannau amaethyddol. Nodweddir yr ardal hefyd gan goridor trafnidiaeth sy'n cynnwys tramffordd i Chwareli Castell Morlais, a llwybr posibl ffordd Rufeinig yn gysylltiedig â'r man croesi ar Afon Taf Fechan ym Mhontsarn.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Fferm y Gurnos a Bunker's Hill yn cynnwys y dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol sydd wedi goroesi i'r gogledd o Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Roedd yr ardal yn gysylltiedig â William Crawshay yn bennaf; cynhwysai ran ddwyreiniol Ystâd Cyfarthfa (map degwm Glanmol-goch dyddiedig 1850, map AO 6 modfedd Llwyn-moelgoch dyddiedig 1875 (Fferm Dan-y-Castell ar ôl hynny), a daliad y Gurnos, wedi'i ganoli ar ei 'fferm fodel' a oedd yn eiddo i David Edwards ac a brydleswyd i William Crawshay ym 1850. Mae cornel dde-ddwyreiniol yr ardal yn cynnwys yr hyn sy'n weddill o ddaliad Gain, a arferai fod yn rhan o ystâd Robert Henry Clive, Iarll Plymouth, a brydleswyd i Gwmni Haearn Penydarren. Roedd y dirwedd amaethyddol ddiwydiannol o gaeau rheolaidd mawr a chlystyrau o goed a oedd yn gysylltiedig â fferm 'fodel' yr ardal yn bodoli erbyn 1826; dengys tystiolaeth gartograffig i gynllun caeau a lonydd yr ardal gael ei ailwampio'n llwyr rhwng 1814 a 1826. Cynhwysai hynny symud cyn-anheddiad Pantton; mae'r elfen 'Pen ton' a gedwir yn enwau caeau'r ardal yn gyfeiriad ato, tra bod caeau creiriol â waliau sych o'u hamgylch yn yr ardal yn elfennau sydd wedi goroesi a gysylltir â'r dirwedd amaethyddol gynharach.

Mae Tramffordd Chwareli Castell Morlais ddyddiedig 1803 yn croesi'r ardal ar ei ffordd i weithfeydd haearn Penydarren a Plymouth.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk