Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


050 Y Gurnos a Galon Uchaf


HLCA 050 Y Gurnos a Galon Uchaf Ystadau trefol modern, yn cynnwys cyfleusterau masnachol, addysgol ac iechyd; safle daliadau amaethyddol ôl-ganoloesol: coridor trafnidiaeth: ffyrdd, gan gynnwys ffordd Rufeinig, a chyn-dramffordd ddiwydiannol; safle nodweddion rheoli dwr (ee Goitre Pond a'r rhwydwaith o sianeli draenio a chronfeydd dwr cysylltiedig); safle mân nodweddion cloddiol diwydiannol (ee lefel lo a haearnfaen, i'r dwyrain o Goitre).

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 050)

Ardal gymeriad Y Gurnos a Galon Uchaf: tirwedd drefol yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif.

Crynodeb

Tirwedd drefol yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif a nodweddir gan ystâdau tai cyngor a chyfleusterau masnachol, addysgol ac iechyd cysylltiedig, a adeiladwyd ar gyn-dir amaethyddol a rhai nodweddion diwydiannol.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Y Gurnos a Galon Uchaf yn cynnwys ystadau tai o dai awdurdod lleol a grëwyd ar ddechrau'r 1960au. Mae'r ardal yn enghraifft o ymgais i integreiddio cyfleusterau masnachol yng nghanol yr anheddiad. Mae'r ystadau yn y Gurnos wedi'u cynllunio mewn amrywiaeth o wahanol batrymau sydd wedi'u canoli ar Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae enwau'r strydoedd, sy'n dilyn thema gyffredin o blanhigion a choed, megis Acacia Avenue, Sycamore Road, Chestnut Way a Honeysuckle Close, yn nodwedd unol.

Mae nodweddion trawiadol eraill yr ardal yn cynnwys ysgolion mawr. Mae'r ysgolion hyn a'u meysydd chwarae a'u rhandiroedd yn cadw i ryw raddau gymeriad yr ardal a arferai fod yn agored, ac mae hyn yn arbennig o amlwg yn ne'r ardal. Cynhwysai'r ardal gyn-ddaliad Fferm Gwaunferran (y Llaethdy ar fap degwm 1850). Roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn eiddo i Gwmni Haearn Penydarren, neu fe'i cymerwyd ar brydles ganddo, ac fe'i defnyddid at ddibenion amaethyddol. Ar wahân i dir amaethyddol, cynhwysai'r ardal ffrydiau a chronfeydd dwr megis y rhai a arferai gysylltu Goitre Pond (a fewnlenwyd bellach) â Phenydarren, ac a ffurfiai ran o system rheoli dwr a ddiwallai anghenion Gwaith Haearn Penydarren. Bodolai'r nodweddion hyn erbyn 1826, fe'u dangosir ar fap degwm 1850 ac roeddynt wedi'u datblygu erbyn 1875, ac roedd y gronfa ddwr isaf yng Ngwaelod-y-garth yn cael ei defnyddio fel pwll nofio erbyn 1915. Ym 1858, adeiladwyd gwelyau hidlo a thanciau storio Penybryn gan Gorfforaeth Merthyr Tudful i gyflenwi dwr domestig i Ferthyr Tudful a Phenydarren wedi'i beipio o Afon Taf Fechan mewn man ger Dolygaer; roeddynt ar waith erbyn 1861. Cyflenwid dwr i Ddowlais a'r Pant trwy gronfa ddwr gyswllt yn Nowlais Top (HLCA 035) y câi dŵr ei bwmpio iddi gan beiriant ager tan 1884.

Lleolir anheddiad Gwaelod-y-garth a ddatblygodd wrth gyffordd ffordd fach/tramffordd yng nghornel de-orllewinol yr ardal (HLCA 030). Dilynir datblygiad cynnar yr anheddiad ar fapiau dyddiedig 1814, 1826, a 1850. Er bod yr anheddiad wedi'i foddi bron gan dwf Parc Penydarren, mae rhesi unigol o dai diwydiannol (a fodolai ym 1875), i'w cael o hyd.

Mae Ysbyty'r Tywysog Siarl (a adeiladwyd ym 1965-75 gan Syr Percy Thomas a'i Bartneriaid, gydag ychwanegiadau dyddiedig 1989-91) yn cynnwys strwythur modern ffurfiol ar ffurf dwy res bumllawr gyfochrog a thyrau gwasanaeth wedi'u cysylltu gan gyfres o resi croes.

Cyn adeiladu'r ystadau tai nodweddid yr ardal gan batrwm cymysg o gaeau rheolaidd ac afreolaidd eu siâp a gynhwysai yn gyffredinol gaeau mawr o dir wedi'i wella yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau'r 19eg ganrif. Cynhwysai'r ardal ddaliadau Galon Uchaf, Penygarn (cytiau cŵn), Gain, Goitre, rhannau o Gellifaelog, Bonymaen a Gyrnos (y Gurnos); dim ond y fferm olaf sydd wedi goroesi (gweler HLCA 052) ychydig i'r gogledd o'r A465(C). Mae'r defnydd a wnaed o'r ardal fel coridor trafnidiaeth ers y cyfnod Rhufeinig, ac yn arbennig yn ystod y 19eg ganrif (ee y dramffordd galchfaen i Waith Haearn Penydarren o Chwareli Castell Morlais) wedi dylanwadu rywfaint ar y system ffyrdd bresennol. I bob pwrpas ffyrdd prifwythiennol presennol yr ardal yw'r rhai a sefydlwyd cyn diwedd y 19eg ganrif.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk