Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


049 Bon-y-Maen


HLCA 049 Bon-y-Maen Ystad ddiwydiannol fodern; cyn-dir amaethyddol; cyn-dramffordd ddiwydiannol (ar linell y ffordd fynediad ar hyd ochr ogledd-ddwyreiniol yr HLCA).

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 049)

Ardal gymeriad Bon-y-Maen: ystâd ddiwydiannol fodern.

Crynodeb

Ystâd ddiwydiannol fodern a adeiladwyd ar safle cyn-dir amaethyddol â maeslun o gaeau mawr ond afreolaidd eu siâp, sy'n gysylltiedig â daliad Bon-y-maen.

Cefndir Hanesyddol

Arferai ardal dirwedd hanesyddol Bon-y-Maen fod yn debyg i ardal amaethyddol HLCA 052 gerllaw sydd wedi goroesi, a chynhwysai res hirsgwar o adeiladau, y fferm ôl-ganoloesol, ar gwr deheuol cae lled grwn, mawr iawn nad yw ei ddyddiad yn hysbys i'r gogledd o Gwm Rhyd-y-Bedd. Ffurfir ffin ogledd-orllewinol yr ardal gan Bryniau Road i'r Pant, tra ceir Heol Rhyd-y-Bedd ar hyd y ffin ogledd-ddwyreiniol, a arferai gario llinell y dramffordd o Chwarel Bryniau i Waith Haearn Ivor yn Nowlais, a ddangosir ar fapiau rhwng 1878/9 a 1915.

Newidiwyd yr ardal gyfan gryn dipyn yn ystod y 1930au pan sefydlodd cwmni ICI waith yn yr ardal, a oedd ar waith erbyn 1939. Yn sgîl adeiladu Ffordd Blaenau'r Cymoedd yng nghanol y 1960au agorwydd yr ardal i bosibiliadau masnachol a diwydiannol o'r newydd ac mewn ymateb datblygwyd safle'r hen waith fel Ystâd Ddiwydiannol Merthyr Tudful gan y Fwrdeistref ym 1966. Mae nodweddion presennol yr ardal yn cynnwys unedau diwydiannol a masnachol cymysg a maes chwarae.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk