Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


046 Chwareli Bryniau


HLCA 046 Chwareli Bryniau Tirwedd gloddiol ddiwydiannol yn gysylltiedig â Gweithfeydd Haearn Dowlais ac Ivor, tramffordd ddiwydiannol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 046)

Ardal gymeriad Chwareli Bryniau: tirwedd gloddiol yn cynnwys chwareli a thramffordd gysylltiedig.

Crynodeb

Tirwedd gloddiol ddiwydiannol a gysylltir â Gweithfeydd Haearn Dowlais ac Ivor, sy'n cynnwys chwareli a thramffordd gysylltiedig.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Chwareli Bryniau yn cynnwys ardal o dir pori garw sydd wedi'i ddraenio'n wael, a oedd yn rhan o ddaliad Castle Farm o eiddo Ystad Plymouth, a brydleswyd i Gwmni Haearn Dowlais yn ystod y 19eg ganrif. Roedd yr ardal, a ddarlunnir fel un goediog (prysgwydd) ar fapiau rhwng 1766-1875, yn cael ei chloddio erbyn 1875. Bryd hynny roedd chwarel fach y tu mewn i dir amgaeëdig Bryniau yn cael ei gweithio ac roedd wedi'i chysylltu gan dramffordd ag ardal Dowlais a Gwaith Haearn Ivor, yn arbennig. Roedd y chwarel a'i rhwydwaith tramffyrdd cysylltiedig wedi ehangu gryn dipyn erbyn 1915. Cynhwysai nodweddion eraill yn dyddio o'r 19eg ganrif (a chyfnodau cynharach) lonydd a arweiniai i Castle Farm.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk