Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


043 Y Garth a Blaen-Y-Garth


HLCA 043 Y Garth a Blaen-Y-Garth Caeau amaethyddol canoloesol/ôl-ganoloesol: patrwm afreolaidd datblygedig, ffiniau caeau traddodiadol; brodorol domestig ac amaethyddol; tirwedd gloddiol ddiwydiannol eilradd a nodweddion rheoli dwr.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 043)

Ardal gymeriad y Garth a Blaen-y-Garth: tirwedd amaethyddol a nodweddir gan gaeau afreolaidd.

Crynodeb

Tirwedd amaethyddol a nodweddir gan ardal o gaeau canoloesol ac ôl-ganoloesol afreolaidd sydd wedi goroesi, ffiniau caeau traddodiadol, ac adeiladau domestig ac amaethyddol brodorol. Ar ben hynny ceir tystiolaeth leol o weithgarwch cloddio ar raddfa fach, a nodweddion rheoli dŵr yn gysylltiedig â gwaith a wnaed i wella iechyd cyhoeddus ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Garth a Blaen-y-garth yn cynnwys ardal o gaeau amaethyddol datblygedig ôl-ganoloesol a sefydlwyd yn y cyfnod canoloesol. Mae'r daliad wedi'i ganoli ar fferm ôl-ganoloesol Garth Farm, a leolir ar safle anheddiad canoloesol Castell Madoc, maenor gaerog y gwyddom ei bod yn anghyfannedd erbyn y 14eg ganrif.

Mae'r ffermdy ôl-ganoloesol (yn dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif) yn y Garth yn perthyn i grwp yr aelwyd-gyntedd o dai lled-ganoloesol, ac enghraifft ydyw o'r math o dy a nodweddir gan simnai dair uned â'i chefn at y fynedfa a neuadd rhwng ystafelloedd allanol wedi'u twymo ac ystafelloedd mewnol cul, sy'n nodweddiadol o'r Blaenau. Nodweddir yr adeilad gan risiau cerrig ochrol y tu mewn i benty.

Mae map Degwm 1850 yn nodi cynllun ffermydd a daliadau'r ardal cyn dyfodiad llinellau Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful. Nodweddid daliad y Garth, a oedd yn eiddo i ryw Mary Williams, gan drefniant afreolaidd o gaeau llinellol, a all fod yn llain-gaeau canoloesol a gyfunwyd, tra nodweddid Blaen-y-Garth (Blaenayr Garth) gan gaeau afreolaidd mwy o faint yn dyddio o bosibl o gyfnod diweddarach. Er nad oedd yr ardal wedi newid fawr ddim erbyn dyddiad arolwg AO 1875, roedd cyfres o chwareli wedi'i hychwanegu i'r gorllewin ac i'r gogledd o fferm y Garth, roedd y rhai i'r gorllewin wedi'u cysylltu â Phantysgallog gan lôn neu dramffordd eilradd.

Mae nodweddion tirwedd diweddarach yn cynnwys Cronfa Ddwr Storio a Gwelyau Hidlo Garth a adeiladwyd erbyn 1884 ar gyfer Corfforaeth Merthyr Tudful ac a oedd wedi'u cysylltu gan brif bibell 12" â Chronfa Ddwr Lower Neuadd ddyddiedig 1884, ac yn ddiweddarach gan ddyfrbont lefel uchel â Chronfa Ddwr Upper Neuadd ac â chronfa ddwr gyswllt newydd ym Mhengarnddu.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk