Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


038 Mountain Hare


HLCA 038 Mountain Hare Anheddiad diwydiannol bach o resi terasog unigol a datblygiadau strimynnog yn gysylltiedig â gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen gerllaw; wedi'i leoli gerllaw coridor tramffyrdd/rheilffyrdd.


Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 038)

Ardal gymeriad Mountain Hare: anheddiad diwydiannol o ffyrdd unigol a datblygiadau strimynnog.

Crynodeb

Anheddiad diwydiannol o ffyrdd a datblygiadau strimynnog ar wahân i'r dwyrain o Dwynyrodyn.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Mountain Hare yn cynnwys anheddiad bach a adeiladwyd i ddechrau ar gwr y Tir Comin ac ar dir cyfagos a oedd yn eiddo i Gwmni Haearn Penydarren, ac yn rhan o ddatblygiad strimynnog gwasgaredig a elwid yn Benyrheol-Merthyr a fodolai erbyn 1814. Erbyn 1850 cynhwysai Mountain Hare wasgariad bach o fythynnod a Rhesi Diwydiannol ar ffurf L, ar hyd Penyrheol Road ac yn cynnwys Mardy Street, wrth gyffordd y lonydd i'r Tir Comin; hy llwybrau i Incline Top, Penydarren, Long Town, a Thwynywaun. Ar ben hynny lleolid yr anheddiad yn gyfleus gerllaw tramffyrdd Cwmnïau Haearn Penydarren a Dowlais.

Erbyn 1875, roedd yr anheddiad wedi ehangu yn sgîl ychwanegu rhes derasog i'r dwyrain o Mardy Street ac roedd ganddo Dafarn, sef y Mountain Hare, yr enwyd yr anheddiad diweddarach ar ei ôl. Rhwng 1898 a 1915, adeiladwyd teras arall ar hyd Pantyffin Road. Gwnaed gwaith mewnlenwi ar raddfa fach ac adeiladwyd datblygiad tai ychwanegol yn ddiweddarach, ee yn yr ardal rhwng Goatmill Road a'r A4060(C).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk