Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


033 Tir Comin Heb ei Wella Garth Fawr


HLCA 033 Tir Comin Heb ei Wella Garth Fawr Tirwedd greiriol a allai fod o bwys cenedlaethol: aneddiadau cynhanesyddol creiriol ac olion cysylltiedig; diwydiannol: nodweddion cloddiol (chwarel a lefelydd posibl).

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 033)

Ardal gymeriad Tir Comin Heb ei Wella Garth Fawr: tirwedd gynhanesyddol greiriol bwysig.

Crynodeb

Tirwedd gynhanesyddol greiriol bwysig, a nodweddir gan aneddiadau yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, ar ffurf cytiau crwn agored, a charneddau claddu cynharach hefyd.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Tir Comin Heb ei Wella Garth Fawr yn ardal ar wahân o dir a amgaewyd yn gymharol ddiweddar (ffensys pyst a gwifrau yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif). Mae'r ardal yn cynnwys porfa fynydd wedi'i lled-wella.

Mae'r ardal yn dirwedd greiriol bwysig yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol (yr Oes Haearn/y Cyfnod Brythonaidd-Rufeinig) sy'n cynnwys nodweddion angladdol cynharach. Mae'r nodweddion creiriol sy'n sefyll yn ffurfio grwp ar wahân ac maent yn dirwedd gymharol brin, a phwysig o'r herwydd, o fewn Tirwedd Hanesyddol Merthyr Tudful yn gyffredinol, o ran y ffaith eu bod wedi goroesi/eu cyflwr, y cyfnod a'u gwerth fel grwp. Mae'r nodweddion tirwedd hyn yn cynnig potensial pwysig ar gyfer cyfleu natur aneddiadau ucheldirol cynnar yn yr ardal; cyfle a gollwyd i raddau helaeth mewn mannau eraill o fewn y dirwedd hanesyddol ers i'r dirwedd gael ei thrawsnewid yn ystod y cyfnod diwydiannol.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk