Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


021 Ardal Mwyngloddio Brig Clyn-Mil a Wernlas


HLCA 021 Ardal Mwyngloddio Brig Clyn-Mil a Wernlas Gweithgarwch mwyngloddio brig ac adfer tir yn dyddio o'r 20fed ganrif: nodweddid gynt fel ardal o weithfeydd mwyngloddio glo a mwyn haearn helaeth yn dyddio o'r 19eg ganrif, yn cynnwys nodweddion trafnidiaeth ddiwydiannol a rheoli dwr.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 021)

Ardal gymeriad Ardal Mwyngloddio Brig Clyn-Mil a Wern-Las: cyn-weithfeydd cloddio haearnfaen a glo a ddilëwyd gan weithgarwch mwyngloddio brig ac adfer tir.

Crynodeb

Tirwedd gloddiol, a nodweddid gynt gan weithfeydd cloddio haearnfaen a glo helaeth a'u nodweddion atodol, tai injan, ffyrdd aer, ffrydiau a chronfeydd dwr ac ati, yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif yn bennaf. Yn chwarter olaf yr 20fed ganrif dilewyd y rhain gan weithgarwch mwyngloddio brig ac adfer tir, ac adferwyd yr ardal fel tir amaeth.

Cefndir Hanesyddol

Arferai ardal dirwedd hanesyddol Ardal Mwyngloddio Brig Clyn-Mil a Wern-Las gynnwys ardal graidd gweithfeydd cloddio haearnfaen a glo a oedd yn gysylltiedig ag Anthony Hill a Chwmni Haearn Plymouth; roedd pyllau glo'r ardal ar waith cyn 1860. Cynhwysai'r ardal Bwll Glo'r Graig (Wern-las rhif 1), Pwll Glo Wern-las, Pwll Glo Ellis, Pwll Glo Clyn Mil (Rhif 2) a Phwll Clyn Mil. Ym 1813, nodir Mwyngloddiau Haearn, ychydig i'r gogledd o fewn ardal Cwmblacks/Pencoedcae, erbyn y 1820au cysylltai tramffyrdd ac incleins Waith Haearn Plymouth â gwahanol gweithfeydd cloddio yn yr ardal a'r tu hwnt. Cynhwysai'r rhain gweithfeydd cloddio haearnfaen a gweithfeydd stripio lleiniau yn yr ardaloedd cyfagos i'r gogledd ac i'r dwyrain (HLCAs 022 a 023) a gweithfeydd yn ardal Cwmblacks. Roedd Pwll Clyn Mil, a wasanaethai'r Gwaith Haearn wedi'i ymestyn i ffurfio tri phwll cyfochrog erbyn 1850, er mai dim ond un pwll a fodolai erbyn 1875. Dangosai'r dystiolaeth gartograffig fod cynnydd wedi bod mewn gweithgarwch cloddio yn ystod y cyfnod 1850-1875, os nad ynghynt. Erbyn 1875, roedd pyllau glo'r ardal wedi hen ymsefydlu ac roedd nifer fawr o nodweddion diwydiannol eraill megis lefelydd, chwareli, tai injan, ffyrdd aer, rhan o system o ffrydiau a chronfeydd dwr ac o leiaf un ddyfrbont i'w gweld.

Erbyn 1901/1905 roedd llawer o weithfeydd cloddio llai o faint yr ardal bellach yn segur ac yn ystod chwarter olaf yr 20fed ganrif dilewyd pob arwydd ohonynt gan weithgarwch mwyngloddio brig ac adfer tir. Erbyn hyn mae'r ardal unwaith eto yn cael ei defnyddio at ddibenion amaethyddol.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk