Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


019 Coridor Tramffordd Penydarren


HLCA 019 Coridor Tramffordd Penydarren Coridor Tramffordd Penydarren sydd o bwys cenedlaethol a llinellau mwynau eraill, safle Gwaith Haearn Plymouth; cysylltiadau hanesyddol; safle tai diwydiannol; nodweddion mwyngloddio.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 019)

Ardal gymeriad Coridor Tramffordd Penydarren: tramffordd yn gysylltiedig â'r daith gofnodedig gyntaf gan locomotif ager a wnaed ar gledrau.

Crynodeb


Coridor trafnidiaeth yn seiliedig ar lwybr Tramffordd Penydarren, sy'n enwog am ei gysylltiad hanesyddol â Richard Trevithick a'r daith gofnodedig gyntaf gan locomotif ager a wnaed ar gledrau ym 1804. Mae Twnnel Trevithick yn dal i fodoli, ac mae llwybr y dramffordd wedi'i gadw'n rhannol yn y system strydoedd modern (Cobden Place). Gall safle Gwaith Haearn Plymouth, a leolir o fewn yr ardal, gynnwys olion claddedig pwysig.

Cefndir Hanesyddol

Yn ei hanfod mae ardal dirwedd hanesyddol Coridor Tramffordd Penydarren yn adlewyrchu llwybr Tramffordd Penydarren neu Ferthyr Tudful, y llwybr o'r gogledd i'r de o Waith Haearn Penydarren ac Abercynon, ymhell y tu hwnt i ffin ddeheuol y dirwedd hanesyddol, a'r llwybr o'r dwyrain i'r gorllewin o'r gwaith haearn i ben y gamlas yn George Town. Hefyd o fewn yr ardal ceir safle'r cynharaf o dri safle ffwrneisi Gwaith Haearn Plymouth.

Adeiladwyd Tramffordd Penydarren o Benydarren i Abercynon ym 1802 oherwydd anghytuno ynghylch tollau a godid ar Gamlas Sir Forgannwg rhwng Richard Crawshay o Gyfarthfa, a ddaliai'r gyfran fwyaf o Gwmni'r Gamlas, a pherchenogion gweithfeydd haearn eraill yr ardal, sef Penydarren, Dowlais a Plymouth.

Cysylltir y dramffordd â Richard Trevithick, a gyflogwyd gan Samuel Homfray ym Mhenydarren i ddatblygu peiriannau ager pwysedd uchel. Ar 21 Chwefror 1804, un o beiriannau ager Trevithick oedd y locomotif ager gyntaf a gofnodwyd erioed i redeg ar gledrau pan gwblhaodd daith o ddeng milltir o Ferthyr Tudful i Abercynon ar hyd Tramffordd Penydarren. Nodwedd bwysig a gysylltir â Thramffordd Penydarren yw Twnnel Gwaith Plymouth (neu Dwnnel Trevithick), sef y twnnel rheilffordd cofnodedig cyntaf a ddefnyddiwyd gan locomotif. Mae'r twnnel hwn wedi goroesi o dan safle banc llenwi Ffwrneisi Gwaith Haearn Plymouth, a gynhwysir o fewn HLCA 019 hefyd.

Gwaith Haearn Plymouth, hy yr un mwyaf gogleddol o dri safle Gwaith Haearn Plymouth, oedd y cynharaf. Fe'i sefydlwyd ym 1763 gan Isaac Wilkinson a John Guest ar dir a gymerwyd ar brydles gan Iarll Plymouth, ac fe'i gwerthwyd ddwy flynedd yn ddiweddarach i Anthony Bacon ar ôl methu â gwneud unrhyw gynnydd i ddechrau. Daeth y gwaith o dan reolaeth Richard Hill (bu farw 1806) ar ôl i Bacon ymddeol ym 1783. Arhosodd y gwaith ym meddiant y teulu Hill nes i Anthony Hill farw ym 1862, pan y'i prynwyd gan y Mri Fothergill, Hankey a Bateman. Dibynnai Gwaith Plymouth ar rym dwr, ymhell ar ôl i'r dull hwn ddiflannu o ddefnydd mewn mannau eraill ac er mwyn ailddefnyddio'r cyflenwad dwr bu'n rhaid i'r gwaith ehangu i greu tri gwaith ar wahân, ac ychwanegwyd Gefail Pentrebach a ffwrneisi Dyffryn (gweler 015A). Cyflwynwyd grym ager o'r diwedd gan arwain at gynnydd dramatig mewn cynhyrchiant yn dilyn hafau sych 1843 a 1844. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, bu cyfuniad o dechnoleg ddarfodedig ac economeg o anfantais i Waith Haearn Plymouth. Am nad oedd unrhyw gyfalaf i newid i gynhyrchu dur caeodd y gwaith yn y diwedd ym 1880; er i'r cwmni barhau i gloddio ei gronfeydd glo helaeth. Bu ardal y gwaith haearn yn destun dau gynllun adfer pwysig ym 1974, ac o ganlyniad trawsnewidiwyd y dirwedd ar raddfa fawr, gan ddileu'r mwyafrif o'r olion a oedd wedi goroesi.

Dengys tystiolaeth gartograffig ddyddiedig 1836 lwybr Tramffordd Merthyr Tudful yn bur fanwl. Dilynai'r llwybr strydoedd Tramroad Side North a South, gan fynd yn ei flaen i'r de i redeg rhwng Plymouth House a Swyddfa'r Gwaith Haearn, a heibio i ochr ddwyreiniol Gwaith Haearn Plymouth. Roedd y llwybr a redai i'r gorllewin i ben y gamlas wedi'i ddangos hefyd. Roedd Tramffordd Penydarren neu Ferthyr Tudful yn gysylltiedig â rhwydwaith cymhleth o dramleiniau cydgysylltiol erbyn 1850; roedd y rhwydwaith hwn yn arbennig o amlwg gerllaw Gwaith Haearn Pentrebach. Nododd map AO 1878 nodweddion yn gysylltiedig â gweithfeydd cloddio gerllaw, Pyllau Graig, Tai-bach a Wern-las a oedd wedi'u lleoli ar hyd y llwybr, a nodweddion yn gysylltiedig â Ffwrneisi Dyffryn, hy y Ffyrnau Cols. Tra roedd Rhesi unigol o dai diwydiannol ag iardiau a rhandiroedd cysylltiedig, megis Pen-Yard Row, Pencae-bach Cottage, a Winches Row hefyd yn nodweddion yn y dirwedd. Erbyn 1905 nid oedd rhan ogleddol a gorllewinol y llwybr o Benydarren yn cael ei defnyddio ac roedd y cledrau wedi'u codi. Nodir un ardal arall lle'r oedd y llwybr o bosibl ar waith yn yr ardal o amgylch safle cyn-Waith Haearn Plymouth, i'r de o Reilffordd Dowlais, tra parhawyd i ddefnyddio'r llwybr yn rhedeg i'r de o Wern-las, Pwll y Graig a Phyllau South Dyffryn fel Rheilffordd Fwynau.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk