Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


016 Abercanaid Uchaf


HLCA 016 Abercanaid Uchaf Anheddiad glofaol cynnar pwysig gerllaw camlas a phwll glo Glyndyrys (ty'r injan).

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 016)

Ardal gymeriad Abercanaid Uchaf: Pwll glo pwysig ar lan camlas yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif.

Crynodeb

Pwll glo pwysig ar lan camlas yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig â Phwll Glyndyrys a Gwaith Glo Plymouth. Mae'n cynnwys enghreifftiau da o dai brodorol diwydiannol yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Abercanaid Uchaf yn cynnwys anheddiad diwydiannol a adeiladwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif rhwng ffordd y plwyf a Chamlas Sir Forgannwg.

Rhwng 1814 a 1832, dengys mapiau AO cynnar fod yr anheddiad yn cynnwys dwy res gyfochrog o fythynnod, a phwll glo i'r gorllewin. Lleolid anheddiad gwreiddiol Abercanaid, a gynhwysai res o adeiladau fferm a ffermdy wedi'u gosod o fewn cae lled hirsgwar, o fewn yr ardal gyfagos (HLCA 015) ychydig i'r gorllewin o Ffordd y Plwyf a Chamlas Sir Forgannwg; erbyn hyn mae'r anheddiad hwnnw wedi'i ddymchwel.

Y darlun manwl cyntaf o'r anheddiad yw'r un a dynnwyd ar gyfer Degwm 1850, a ddangosai ddwy res gyfochrog fel cynt, ynghyd â rhesi ychwanegol ar hyd y lôn i Fferm Gwaun Wyllt (Waunwyllt). Yng nghanol yr anheddiad roedd fila fawr, sef Upper Abercanaid House (waliau gardd a phileri rhestredig gradd II). Bryd hynny roedd yr ardal yn rhan o ystâd Thomas Thomas. Roedd capel o eiddo'r Bedyddwyr Cymreig, sef Capel Shiloh, wedi'i nodi erbyn 1878, tra roedd dau dy injan, ffordd aer gyfagos, a lefel haearnfaen i'r gogledd o Abercanaid, yr ymddengys fod pob un ohonynt yn segur erbyn 1919. Yn y cyfnod hyd at 1919, ymddengys i'r un fwyaf gorllewinol o'r ddwy res gyfochrog gael ei dymchwel. Cynhwysai'r nodweddion cloddio cyfagos a nodwyd Bwll Glyndyrys, ynghyd â dau bwll cysylltiedig arall o fewn yr anheddiad ei hun, a lefel ychydig i'r gorllewin o Gapel y Bedyddwyr (GRO/D/D HSE/1).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk