Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


014 Coridor Camlesi a Rheilffyrdd Afon Taf


HLCA 014 Coridor Camlesi a Rheilffyrdd Afon Taf Y prif goridor cysylltiadau o'r gogledd i'r de coridor camlesi, tramffyrdd, rheilffyrdd diwydiannol a chyhoeddus; nodweddion cloddiol yn dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, pyllau glo, lefelydd a mwyngloddiau yn bennaf a nodweddion rheoli dwr cysylltiedig; tai diwydiannol; cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol pwysig; Coetir Hynafol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 014)

Ardal gymeriad Coridor Camlesi a Rheilffyrdd Afon Taf: llwybr camlesi, rheilffyrdd, tramffyrdd a ffyrdd gerllaw Afon Taf.

Crynodeb

Mae coridor cysylltiadau pwysig yn cynnwys Camlesi Sir Forgannwg a Chyfarthfa, yn ogystal â chysylltiadau ffordd ac olion tramffyrdd a rheilffyrdd. Y ddolen gyswllt gynharaf oedd ffordd y plwyf, yr ychwanegwyd y gamlas a gyflenwai Waith Haearn Cyfarthfa â glo a haearnfaen ati ar ddiwedd y 1770au. Ehangwyd y system gryn dipyn o flynyddoedd agoriadol y 19eg ganrif. Nodweddir yr ardal gan ddwy gamlas sydd wedi goroesi ac olion cyn-reilffyrdd diwydiannol, yr argloddiau, yr hafnau, y pontydd a'r nodweddion eraill sy'n gysylltiedig â hwy. Ceir hefyd nodweddion sy'n gysylltiedig â gweithgarwch cloddio, a thai diwydiannol George Town sydd wedi goroesi.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Camlas a Choridor Rheilffordd Afon Taf yn cynnwys olion helaeth ffyrdd, camlesi, tramffyrdd a rheilffyrdd, yn ogystal ag olion yn gysylltiedig â gweithgarwch cloddio glo a haearnfaen. Mae golwg bresennol yr ardal yn deillio i raddau helaeth o dwf cyflym y diwydiannau haearn a glo yn y rhanbarth yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'r mwyafrif o'r safleoedd yn uniongyrchol gysylltiedig â gweithgarwch cloddio glo a haearnfaen a'r system drafnidiaeth a ddatblygodd ochr yn ochr ag ef.

Mae datblygiad cyflym y gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen yn yr ardal yn gysylltiedig ag atgyfodiad y diwydiant haearn a welwyd yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, a ddeilliodd yn uniongyrchol o ddatblygiadau technolegol arloesol, a'i gwnaeth yn bosibl i ddefnyddio cols wrth doddi haearn. Dowlais oedd y gwaith haearn cyntaf a ddefnyddiai'r broses bwdlo newydd i gael ei sefydlu yn ardal Merthyr Tudful; yn fuan ar ôl hynny ym 1765 sefydlodd Anthony Bacon y gwaith haearn yng Nghyfarthfa. Câi Gwaith Haearn Cyfarthfa ei ddeunyddiau crai o'r gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen ar dir a gymerwyd ar brydles gan ystâd Dynevor gan gynnwys y gweithfeydd hynny a oedd wedi'u lleoli yn yr ardal.

Mae rhwydweithiau trafnidiaeth yr ardal yn dechrau gyda hen ffordd y plwyf, yr ychwanegwyd ati yn ddiweddarach pan adeiladwyd Camlas Cyfarthfa i gludo glo yn syth o lefelydd i'r gwaith haearn. Ymddangosai'r gamlas, a adeiladwyd ar ddiwedd y 1770au, ar fap Yates dyddiedig 1799, (fe'i caewyd 62 o flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1856). Roedd y gamlas wedi'i chysylltu â mynedfa yn Wern, lle y câi glo ei lwytho yn syth ar gychod haearn bach neu 'fwcedi' yn dod i mewn i geg y fynedfa. Dechreuodd y gwaith haearn ynghyd â'r gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen ar gyfnod o ehangu cyflym o dan Richard Crawshay, a gymerodd Gyfarthfa ar brydles ym 1786; roedd y llwyddiant cynnar hwn yn rhannol i'w briodoli i adeiladu Camlas Sir Forgannwg ym 1794.

Er y dibynnai'r diwydiant cloddio cynnar i raddau helaeth ar weithfeydd cloddio ar yr wyneb gan ddefnyddio cymysgedd o weithgarwch stripio lleiniau (proses sy'n sgwrio'r uwchbridd o'r tir), pyllau bach, a lle y caniatâi'r topograffi ddynion i yrru lefelydd i mewn i'r llethrau (Osborne 1976, 41), y 1820au a'r 1830au oedd blynyddoedd gwirioneddol ffyniannus y diwydiant. Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuwyd cloddio'r pyllau dwfn, megis Pwll Colliers' Row, Pwll Glyndyrys, Pwll Rhyd-y-Car a Glofa'r Cwm, yn yr ardal.

Y prif ddull cludo o fewn y siafftiau oedd y system mantol ddwr, a ddibynnai ar gyflenwad digonol a chyson o ddwr (Thomas 1981, 306-308); mae'n debyg bod nifer o'r cronfeydd dwr yn yr ardal yn nodweddion creiriol yn gysylltiedig â'r system hon. Parhawyd i gloddio haearnfaen a glo yn arbennig trwy gydol y 19eg ganrif, gyda lefel y gweithgarwch yn amrywio yn ôl y galw economaidd. Erbyn diwedd y 1920au, roedd yr ardal i raddau helaeth yn ddiffaith er yr ymddengys fod cyfnod byr o weithgarwch cloddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

O tua 1800 dechreuwyd datblygu rhwydwaith trafnidiaeth cymhleth; tramffyrdd i ddechrau ac yn ddiweddarach yn ystod y 1840au reilffyrdd, a gludai lo a mwyn haearn i Waith Haearn Cyfarthfa yn gyntaf ac a wasanaethai farchnadoedd ehangach ar ôl hynny. Ymhlith y rhain y prif enghreifftiau oedd Rheilffyrdd Ynys-fach, Gethin, Cwm Pit a Glyn Nedd a Chyd-linell Reilffordd B&M ac L&NWR (gweler hefyd HLCA 027 a 055).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk