Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


013 Castell a Pharc Cyfarthfa


HLCA 013 Castell a Pharc Cyfarthfa Plasty meistr haearn, parc a gardd hanesyddol; cysylltedd gweledol â'r gwaith haearn cysylltiedig a thirwedd gloddiol ddiwydiannol; amgueddfa ac ysgol ddiweddarach; man hamdden; cysylltiadau hanesyddol a chelfyddydol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 013)

Ardal gymeriad Castell a Pharc Cyfarthfa: tþ a pharc meistr haearn.

Crynodeb

Adeiladwyd Castell Cyfarthfa yn ail chwarter y 19eg ganrif yn gartref i'r teulu Crawshay, perchenogion Gwaith Haearn Cyfarthfa. Roedd ganddo barc anffurfiol yn yr arddull Ramantaidd yn wreiddiol, ond roedd y parc hwn wedi datblygu'n gynllun mwy ffurfiol erbyn diwedd y 19eg ganrif. Erbyn hyn y parc, y cydnabyddir bellach ei fod yn un o bwys cenedlaethol, yw'r man agored mwyaf ym Merthyr Tudful. Erbyn hyn mae'r castell yn cyfuno swyddogaethau ysgol ac amgueddfa. Mae'n dal i fod yn enghraifft bwysig o breswylfa meistr haearn.

Cefndir Hanesyddol

Ardal dirwedd hanesyddol Castell a Pharc Cyfarthfa yw'r man agored mwyaf yng nghytrefiad Merthyr Tudful, ac mae'n cynrychioli tirwedd gynlluniedig aeddfed, sy'n raddedig II* (Cadw/ICOMOS UK 1999, 95). Comisiynwyd y ty gan William Crawshay ym 1825, ac fe'i cynlluniwyd gan Robert Lugar fel ffug gastell. Mae'r ty (Adeilad Rhestredig Gradd I) yn edrych dros erddi yn disgyn i'r de-orllewin a Gwaith Haearn Cyfarthfa, ar yr ochr draw i Afon Taf.

I ddechrau, roedd y parcdir oddi amgylch yn yr arddull Ramantaidd ac yn anffurfiol, ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd cynllun mwy ffurfiol fel parc tirwedd wedi datblygu. Roedd dwy fynedfa, roedd gan fynedfa'r de-orllewin borthordai yn wreiddiol ond roedd y rhain wedi diflannu erbyn 1873. Mae'r ardaloedd y tu ôl i'r ty, i'r dwyrain ac i'r gogledd, wedi datblygu fel coetir cymysg. Dangosai map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875 Rewdy gerllaw wal derfyn Castle Wood, i'r gogledd o'r ty.

Cyflenwai cronfa ddwr y Pwll Pysgod ar gwr gorllewinol yr ardal ynghyd â chronfeydd dwr a ffrydiau eraill o fewn y parc, ddwr i Waith Haearn Cyfarthfa trwy sgwd ar bont Pont-y-Cafnau. Mae nodweddion eraill o ddiddordeb yn cynnwys y Pyllau Uchaf; sef cyfres o bedwar pwll hirgrwn cul ag argaeau rhagfuriedig ar eu hochr ogledd-orllewinol wedi'u trefnu y naill uwchlaw'r llall, a Phwll Bryn-Cae-Owen (ar lun Tirfesurydd AO 1826) wedi'i leoli i'r gogledd-ddwyrain o'r ty.

Ar ôl i'r parc gael ei werthu i gyngor Merthyr Tudful ym 1910, gwnaed newidiadau, gan gynnwys creu dau deras i'r de o'r brif dramwyfa ar gyfer lawnt fowlio a chyrtiau tennis, ac adeiladu gwelyau blodau a phistyll. Mae'r Castell bellach yn gweithredu fel ysgol ac amgueddfa.

Yn fwy diweddar, newidiwyd rhan ddwyreiniol y parc yn feysydd chwarae ysgol.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk