Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


011 Llwyncelyn ac Ynys Fach


HLCA 011 Llwyncelyn ac Ynys Fach Anheddiad ar ffurf ystâd fodern dros ardal a nodweddid gynt gan y defnydd cymysg a wneid ohoni at ddibenion amaethyddol a diwydiannol, gan gynnwys cloddio haearnfaen a thrafnidiaeth ddiwydiannol. transport.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 011)

Ardal gymeriad Llwyn-celyn ac Ynys Fach: ardal drefol fodern.

Crynodeb

Mae hon yn ardal drefol fodern a adeiladwyd dros yr hyn a arferai fod yn gymysgedd o dir amaethyddol a diwydiannol lle'r oedd gwastraff o waith Cyfarthfa wedi'i arllwys. Nodweddir gan dai cyngor a thai uwchraddol yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Llwyncelyn ac Ynys Fach yn cynnwys tai awdurdod lleol a thai uwchraddol a adeiladwyd yn ddiweddar. Yn ffinio â'r ardal i'r gorllewin mae ffordd yr A470(C) ar lwybr hen linell Rheilffordd Gethin a Rheilffordd Brecon a Merthyr Tudful ac yn ffinio â hi i'r dwyrain mae olion gwaith haearn Ynys Fach.

Roedd yr ardal, rhan o Ystâd Dynevor, wedi'i chanoli ar fferm Llwyn Celyn. Ymddengys fod y daliad, a leolid ychydig i'r dwyrain o Gamlas Cyfarthfa ac sy'n dyddio o'r 18fed ganrif o leiaf yn rhan o fferm Wern erbyn 1850. Effeithiodd y gweithgarwch arllwys gwastraff o waith Cyfarthfa gymaint ar yr ardal, fel bod yn rhaid bod cryn amheuaeth ynghylch ei hyfywedd amaethyddol erbyn 1878. Dengys mapiau 25 modfedd a 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875 a 1878 fod yr ardal yn cynnwys nodweddion diwydiannol megis lefel haearnfaen nas defnyddid, siafft haearnfaen â gefail gysylltiedig, ty injan, ynghyd â Rheilffordd Mwynau Ynys Fach ac ardal helaeth o gilffyrdd rheilffordd yn gysylltiedig â gwaith Ynys Fach gerllaw.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk