Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


010 Ardal Gwaith Haearn Ynys Fach


HLCA 010 Ardal Gwaith Haearn Ynys Fach Olion diwydiannol: gwaith haearn, saif Coleg Technegol ar ran o'r ardal; cysylltiadau hanesyddol, technegol, a chelfyddydol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 010)

Ardal gymeriad Ardal Gwaith Haearn Ynys Fach: gwaith haearn cynnar ac olion sydd wedi goroesi.

Crynodeb

Dechreuodd yr ardal hon pan sefydlwyd ffowndri yn ail hanner y 18fed ganrif, sef Gwaith Haearn Ynys Fach, i fwrw canonau a phelenni canon ar gyfer Rhyfel Annibyniaeth America, ond gweithredai ar ôl hynny fel gwaith atodol i Waith Haearn Cyfarthfa. Mae olion pedair Ffwrnais Chwyth a Thy'r Injan i'w gweld ar y safle o hyd.

Cefndir Hanesyddol

Deilliodd y datblygiad gwreiddiol o fewn ardal dirwedd hanesyddol Ardal Gwaith Haearn Ynys Fach yn uniongyrchol o Ryfel Annibyniaeth America (1776-1783), pan sefydlwyd ffowndri i fwrw canonau a phelenni canon. Cymerodd Francis Homfray y ffowndri ar brydles ym 1782 i fwrw canonau o haearn crai a gyflenwyd gan Ffwrnais Cyfarthfa gerllaw, ond fe'i holynwyd yn fuan ar ôl hynny gan Richard Crawshay o Normanton, Swydd Efrog, y daeth Gwaith Cyfarthfa ei hun o dan ei reolaeth yn ddiweddarach. Agorodd Gwaith Haearn Ynys Fach fel estyniad i waith Cyfarthfa Crawshay ym 1801 ac er mai ef oedd yr ail yn yr ardal i ddefnyddio peiriannau yn chwythu ager, ar ôl Dowlais, at ei gilydd chwaraeai rôl eilradd i waith Cyfarthfa. Pan ddechreuwyd cynhyrchu dur yng ngwaith Cyfarthfa gerllaw ym 1884, ail-leiniwyd y pedair ffwrnais chwyth yn Ynys Fach a'u cadw wrth gefn, rhag ofn y byddai galw o'r newydd am haearn. Fodd bynnag credir ei bod yn annhebyg i'r ffwrneisi erioed gael eu hailddefnyddio at y diben hwnnw.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk