Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


008 Ardal Gwaith Haearn Dowlais


HLCA 008 Ardal Gwaith Haearn Dowlais Ardal Ddiwydiannol: safle cyn-waith haearn; cysylltiadau hanesyddol, technolegol, a chelfyddydol o bwys cenedlaethol a rhyngwladol; safle cartref meistr haearn; gweithgarwch rheoli dwr a chynhyrchu pwer.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 008)

Ardal gymeriad Ardal Gwaith Haearn Dowlais: gwaith haearn cynnar pwysig, sydd bellach yn barc diwydiannol.

Crynodeb

Sefydlwyd Gwaith Haearn Dowlais ym 1759, ac erbyn y 19eg ganrif, hwn oedd y gwaith haearn mwyaf yn y byd. Erbyn hyn mae'r ardal ffurfio parc diwydiannol yn cynnwys olion pwysig sy'n sefyll, megis Ty'r Peiriant Chwythu, ynghyd ag olion claddedig yn cynnwys sylfaen y Ffwrneisi Chwyth.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Ardal Gwaith Haearn Dowlais yn cynnwys safle'r gwaith haearn a sefydlwyd ym 1759 gan bartneriaeth wedi'i harwain gan Isaac Wilkinson, meistr haearn o'r Bers, Clwyd. Digwyddodd y newid i gynhyrchu barrau haearn yn hytrach na haearn crai yn gymharol hwyr yn Nowlais. Perswadiodd y diffyg llwyddiant o ran cymhwyso proses bwdlo Peter Onion bawb ond John Guest i beidio â buddsoddi yn y dechnoleg yn ystod y 1780au a pharhaodd Dowlais i gyflenwi haearn crai i Benydarren a Chyfarthfa. Gwaith Dowlais oedd y cyntaf ym Merthyr Tudful i osod Peiriannau chwythu ager, a ddisodlodd meginau wedi'u gyrru gan olwynion dŵr.

Deuai'r Gwaith yn Nowlais i gael ei gysylltu'n gryf â'r teulu Guest; yn gyntaf John Guest, wedyn ei fab, Thomas Guest (1787) ac yn ei dro ei fab yntau, Josiah John Guest (1807), rhyddfrydwr a gefnogai fasnach rydd ac AS cyntaf Merthyr Tudful, yn dilyn Deddf Diwygio 1832. Oherwydd gweledigaeth a chraffter busnes yr olaf datblygodd Dowlaisi fody gwaith haearn mwyaf yn y byd. Cynhyrchwyd y cledrau ar gyfer Rheilffordd Stockton a Darlington yng ngwaith Dowlais ym 1821 gan osod y patrwm ar gyfer y 1830au a'r 1840au, sef blynyddoedd ffyniannus y rheilffyrdd. O ganlyniad i ddatblygiadau technolegol megis mabwysiadu'r 'dechneg chwythu poeth', a batentwyd ym 1828, ac a gwtogodd ar y golosg yr oedd ei angen at ddibenion mwyndoddi, llwyddodd Dowlais i aros ar y blaen yn gystadleuol. Adeiladwyd rhagor o felinau i gynhyrchu cledrau: y Big Mill ym 1830, a ddilynwyd gan y Little Mill ym 1840.

Penodwyd William Menelaus yn rheolwr cyffredinol ym 1856 ac yn fuan ar ôl hynny dechreuodd gwaith Dowlais arbrofi â phroses newydd a ddatblygwyd gan Henry Bessemer. Byddai Menelaus yn goruchwylio'r broses o newid gwaith Dowlais i gynhyrchu dur, a ddechreuodd ar raddfa gyfyngedig ym 1865. Roedd yr haearnfaen lleol yn anaddas ar gyfer cynhyrchu dur, am ei fod yn cynnwys lefel uchel o ffosfforws ac erbyn y 1870au roedd cloddio am haearnfaen yn ardal Merthyr Tudful wedi dod i ben. Yn seiliedig ar fewnforion, o Sbaen yn bennaf, byddai gweithgarwch cynhyrchu dur yn y pen draw yn adleoli i safleoedd arfordirol, megis y gwaith dur newydd a adeiladwyd gan Gwmni Dowlais yn East Moors yng Nghaerdydd ym 1891. Ym 1905, o dan gwmni GKN ychwanegwyd cyfadail Ffwrnais chwyth newydd, a gynhwysai ddwy ffwrnais 'Yankee' a gynlluniwyd yn America a melin newydd. Fodd bynnag, ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, ym 1930 daeth gweithgarwch cynhyrchu dur yn Nowlais i ben o'r diwedd.

Gellir dilyn datblygiad cynnar y gwaith o ffynonellau cartograffig, gan gynnwys mapiau ystâd a mapiau AO cynnar a lluniau tirfesurwr, map Degwm 1850 a map nas cyhoeddwyd dyddiedig 1851, ymhlith ffynonellau eraill. Dangosir maint datblygiad y gwaith haearn yn dda gan fap 6 modfedd yr AO dyddiedig 1878, sy'n adlewyrchu yn rhannol y newid i gynhyrchu dur yn y blynyddoedd ar ôl 1865. Cofnodwyd nifer fawr o nodweddion o fewn yr ardal gan gynnwys banc llenwi, ffwrneisi ac odynau brics ymhlith nodweddion diwydiannol eraill i'r de-ddwyrain o Dowlais House. Mae nodweddion eraill a ddangosir yn cynnwys tai peiriannau, lefelau, gwaith brics, y gronfa ddŵr i'r de o Dowlais House, Pwll Caeharris, bythynnod gerllaw ar Pond Street (a ddymchwelwyd bellach), Rheilffordd Dowlais a nifer fawr o gilffyrdd rheilffordd a thramffyrdd. Lleolid Melin GGAT, pwll Coed Cae, a rhes gyfagos o fythynnod (a ddymchwelwyd erbyn 1905) yn ne'r ardal.

Cafwyd newidiadau pwysig ym 1905 pan ailwampiwyd y gwaith o dan gwmni GKN: adeiladwyd cronfeydd dŵr ychwanegol ac odynau cols helaeth yn yr ardal i'r gogledd o'r gwaith brics, a oedd wedi'i ymestyn. Ehangwyd y Goat Mill ac roedd gorsaf Cae-Harris wedi'i hadeiladu; cynhwysai'r orsaf sied nwyddau, cwt locomotifau a ffaldau. Roedd newidiadau pellach a nodir erbyn 1919 yn bennaf yn yr ardal i'r de-ddwyrain o Dowlais House a thþ'r peiriant chwyth (sy'n rhestredig gradd II bellach), a chynhwysent ychwanegiadau at y ffwrneisi.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk