Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


007 Dowlais


HLCA 007 Dowlais Anheddiad diwydiannol: Anheddiad a oedd yn eiddo i Gwmni Haearn ag elfen reolaidd a datblygedig i'w gynllun; datblygiadau strimynnog gwreiddiol ac anheddiad gwasgaredig nas cynlluniwyd ar ffurf 'anheddiad sgwatwyr' yng Nghwm Rhyd-y-Bedd, yr ychwanegwyd craidd â chynllun grid llinellol, adeiladau cyhoeddus, addysgol a chrefyddol; gwaith ailddatblygu ar raddfa fawr yn ystod yr 20fed ganrif; coridor trafnidiaeth.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 007)

Ardal gymeriad Dowlais: anheddiad gweithwyr haearn cynnar.

Crynodeb

Mae'r anheddiad yn gysylltiedig â Gwaith Dowlais a Gwaith Ivor a sefydlwyd yn ddiweddarach. Er iddo ddechrau yn ail hanner y 18fed ganrif fel gwasgariad o fythynnod, datblygodd trwy sawl cyfnod o ddatblygiadau strimynnog yn system grid, a oedd eisoes yn rhannol yn ei lle erbyn 1814. Mae ardaloedd o dai diwydiannol wedi goroesi, ond adeiladau cyhoeddus a chrefyddol trawiadol, megis Stablau Gwaith Haearn Dowlais a'r Llyfrgell Goffa, yw nodweddion amlycaf yr ardal yn gyffredinol.

Cefndir Hanesyddol

Cynhwysai ardal dirwedd hanesyddol Dowlais yr anheddiad yn gysylltiedig â Gwaith Dowlais a Gwaith Ivor a sefydlwyd yn ddiweddarach. Datblygodd yr anheddiad ar ddaliadau ffermydd Wern-Llwyn Isaf ac Uchaf yn ystod ail hanner y 18fed ganrif. Mae mapiau ystâd o'r ardal (Cwmni Haearn Dowlais 1784-1806) yn darparu cefndir defnyddiol i ddatblygiad cynnar yr ardal. Cynhwysai'r anheddiad gwreiddiol wasgariad llac o fythynnod, yn bennaf ar hyd y ffordd i ffwrneisi Gwaith Haearn Dowlais ac yn yr ardal yn union i'r gogledd o'r ffwrneisi, a chlwstwr craidd wrth gyffordd y ffordd o Upper Garth â Nantmorlais (ardal Caeharris).

Erbyn 1814, nodweddid yr anheddiad fel datblygiad strimynnog llinellol ar hyd y ffordd i'r gorllewin o Bontgellifaelog i'r gyffordd â'r lôn o'r Pant, lle'r oedd cnewyllyn bach o aneddiadau gerllaw'r ffwrneisi, yn yr ardal i'r de o stablau Dowlais a adeiladwyd yn ddiweddarach.

Roedd y system grid nodweddiadol a osodwyd ar yr anheddiad yn rhannol yn ei lle erbyn y 1820au, ac roedd yr ardal i'r de o Union Street wedi'i chwblhau, gan gynnwys eglwys a stablau Dowlais (1820; safle'r cyfleuster addysgol cyntaf ar gyfer gweithwyr ym Merthyr Tudful, a sefydlwyd gan Josiah John Guest ym 1828). Roedd Fferm Gwern Llwyn Uchaf yn dal mewn bod i'r dwyrain o'r anheddiad a rhyngddynt roedd tir amaethyddol. Roedd gwasgariad o fythynnod hefyd yn ardal Morgan Street yn ystod y cyfnod.

Rhwng 1832 a 1850 ehangodd yr anheddiad yn Nowlais ar raddfa fawr; erbyn yr ail ddyddiad cynhwysai Dowlais ddatblygiadau strimynnog llinellol i'r de o High Street, tra roedd y craidd gwreiddiol wedi'i ymestyn i gynnwys Cae Canol Street. Ymestynnodd datblygiadau strimynnog yn awr i'r dwyrain y tu hwnt i'r gyffordd â Pant Road. Roedd ardal ddeheuol Dowlais, lle'r oedd y tir i gyd yn eiddo i Gwmni Haearn Dowlais, eisoes wedi'i gosod ar ffurf grid. Erbyn 1850, ymestynnai'r ardal hon i'r gogledd o High Street hyd at Upper Elizabeth Street a phen deheuol Victoria Street, gan ymestyn hyd at yr ardal lle y lleolid yr orsaf yn ddiweddarach a'r ffordd i'r Pant. Cynhwysai'r ardal ochr ogleddol Ivor Street, lle y lleolid barics (a ddisodlwyd yn ddiweddarach gan Barrack Row), a Lower ac Upper Row. Roedd ardal ogledd-orllewinol Dowlais, gerllaw Cwm-Rhyd-y-Bedd yn eiddo i nifer o fân berchenogion tir a datblygodd nodweddion ychydig yn wahanol; yn arbennig o ran ei chynllun. Nodweddid ei chynllun gan wasgariad o resi byr a bythynnod unigol a chynhwysai'r ardal rhwng Pant Road a Gwaith Haearn Ivor (HLCA 029), Llewellyn Street; Winifred Street a rhes i'r gorllewin o Balaclava Road a adeiladwyd yn ddiweddarach yn ardal Pen Cae Eira.

Mae Argraffiad Cyntaf mapiau 6 modfedd a 25 modfedd yr AO (1875 a 1878) yn darparu rhagor o fanylion megis stablau Gwaith Haearn Dowlais, y Marchnaty, ysgolion a sefydlwyd gan Gwmni Haearn Dowlais, Ystafell Ddarllen Guest, capel Hebron, Porthordy Dowlais House, ysbyty, a chapel Beulah. Roedd yr ardal o Victoria Street ac Elizabeth Street mor bell i'r gogledd â Francis Street, hy ardal ogledd-orllewinol Dowlais, wedi datblygu gyda'r tai wedi'u hadeiladu'n glòs ac roedd patrwm grid y strydoedd yn llai rheolaidd, sy'n arwydd efallai o ddarpariaeth tai wahanol i ran ddeheuol Dowlais lle'r oedd dylanwad y Cwmni Haearn ar weithgarwch cynllunio trefol yn amlwg.

Roedd Dowlais wedi'i chwblhau i raddau helaeth erbyn 1878, er i rai mân ddatblygiadau ychwanegol ddigwydd yn ystod y cyfnod hyd at 1919, megis Alfonso Terrace a strydoedd Moulson, Rees a Jones.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk