Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


006 Merthyr Tudful, De: Ardal Plymouth Street


HLCA 006 Merthyr Tudful, De: Ardal Plymouth Street Anheddiad diwydiannol: datblygiadau strimynnog cynnar a gwaith mewnlenwi diweddarach ar ffurf terasau rheolaidd; coridor trafnidiaeth a chysylltiad agos ag ardaloedd cyfagos.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 006)

Ardal gymeriad Merthyr Tudful, De: Ardal Plymouth Street: anheddiad diwydiannol yn seiliedig ar ddatblygiadau strimynnog.

Crynodeb

Dechreuodd yr anheddiad diwydiannol hwn ar ddechrau'r 19eg ganrif fel datblygiad strimynnog ar hyd y dollffordd i'r dwyrain ac i'r gorllewin o Upper Plymouth Street, a pharhaodd i ehangu fel datblygiad strimynnog ar hyd llinellau cyswllt eraill, Tollffordd Plymouth a'r rhwydweithiau tramiau a rheilffyrdd. Mae datblygiadau strimynnog yn parhau i fod yn un o'r prif argraffiadau gweledol hyd heddiw. Ychwanegwyd terasau rheolaidd at y datblygiadau strimynnog hyn yn ddiweddarach.

Cefndir Hanesyddol

Datblygodd ardal dirwedd hanesyddol Merthyr Tudful, De: Ardal Stryd Plymouth gyntaf ar ddechrau'r 19eg ganrif ar ffurf datblygiadau strimynnog ar hyd y dollffordd, hy i'r dwyrain ac i'r gorllewin o Upper Plymouth Street. Erbyn 1836 cynhwysai'r ardal ddatblygiadau strimynnog ar bob ochr i Plymouth Street cyn belled ag ardal Warlow Street heddiw, a rhesi yn yr ardal i'r gorllewin o Dramffordd Merthyr Tudful (Penydarren). Roedd Tollffordd Plymouth, Capel Ebenezer (Bedyddwyr), a'r Bell Inn hefyd yn bodoli erbyn y dyddiad hwn. Roedd gerddi rhwng ffryntiad y Stryd a Chamlas Gyflenwi Plymouth. Roedd Plymouth House (Plymouth Cottage) wedi'i adeiladu, yn ogystal â'r swyddfa i'r de. Roedd datblygiad yr ardal yn uniongyrchol gysylltiedig â datblygiad llinellau cyswllt yr ardal: Tollffordd Plymouth, a grëwyd dan nawdd Deddf Tyrpeg Sir Forgannwg 1771 ac a sefydlwyd gan Anthony Bacon; a rhwydweithiau tramffyrdd a rheilffyrdd a ddatblygodd yn ddiweddarach, yn arbennig Rheilffordd Dyffryn Taf (1841). Er na fu fawr ddim newid yn y patrwm strydoedd cynharach rhwng Rheilffordd Penydarren a chamlas gyflenwi Plymouth, erbyn 1879 roedd yr ardal wedi'i thrawstorri gan Reilffordd Cwm Nedd (1853) ac inclein Rheilffordd Dowlais (1851), tra roedd Railway Terrace a Mary Terrace yn cael eu hadeiladu i'r de o inclein Rheilffordd Dowlais. Ychwanegwyd Gwesty'r Maerdy, gerllaw Rheilffordd Dowlais, yn adlewyrchu'r ffaith bod yr ardal yn agos at gysylltiadau rheilffordd pwysig. Cafwyd rhagor o fân ychwanegiadau gerllaw Rheilffordd Dyffryn Taf erbyn 1905. Yn bennaf, teras ychwanegol i'r de o Railway Terrace ar Plymouth Street a Clare Street, yn yr ardal rhwng y ddwy reilffordd i'r de-orllewin o gamlas gyflenwi Plymouth. Mae'r gwaith datblygu yn parhau ar ddechrau'r 20fed ganrif ac erbyn 1918-19 roedd rhagor o derasau wedi'u cwblhau ar ochr ddwyreiniol Plymouth Street, tra roedd Ernest Street wedi'i hadeiladu rhwng tu cefn Plymouth Street a'r gamlas gyflenwi. I'r gogledd o Plymouth House, roedd Melbourne Terrace wedi'i hadeiladu, yn ogystal ag Ysbyty Arwahanu Corfforaeth Merthyr Tudful. Ymddengys fod Swyddfa'r Pwll islaw Plymouth House yn adfeiliedig erbyn yr adeg honno, ac roedd y gwaith gerllaw (HLCA 019) wedi cau ym 1880.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk