Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


003 Parc Penydarren a Gwaelod-y-Garth


HLCA 003 Parc Penydarren a Gwaelod-y-Garth Y prif ddatblygiad maestrefol dosbarth canol ar gyn-barcdir; blociau rheolaidd o derasau a filâu pâr a filâu ar wahân mwy o faint; safle cyn-gartref meistr gwaith haearn; swyddogaeth hamdden bwysig yn ddiweddar.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 003)

Ardal gymeriad Parc Penydarren a Gwaelod-y-Garth: y brif ardal breswyl ddosbarth canol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif.

Crynodeb

Datblygodd yr ardal breswyl hon o ddiwedd y 1870au ar gyn-barcdir Penydarren House, preswylfa un o'r meistri haearn. Erbyn 1919 dyma oedd prif ardal faestrefol ddosbarth canol Merthyr Tudful. Mae'n cynnwys cyfres o filâu pâr mawr a nifer o adeiladau cyhoeddus megis yr YMCA a Theml y Seiri Rhyddion.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Parc Penydarren a Gwaelod-y-Garth yn cynnwys ardal graidd cyn-barcdir a daliadau yn gysylltiedig â Penydarren House, plasty'r teulu Homfray a oedd yn berchen ar Waith Haearn Penydarren gerllaw. Golygai maint ei erddi difyrrwch fod y ty, a adeiladwyd gan Samuel Homfray ym 1786, yn 'ddigon pell o'r dref, ac mae'n cynnwys yr holl gyfleusterau a moethusion sydd eu hangen ar deulu cyfoethog a phwysig'. Dymchwelyd y ty, a oedd yn gartref i Ysgol Berchnogol Merthyr ar ôl hynny (1876-1888), ym 1966; erbyn hyn lleolir meysydd pêl-droed Parc Penydarren ar y safle.

Mae craidd yr ystâd wedi gweld datblygiadau trefol ers diwedd y 1870au. Erbyn 1905 ymddengys fod y cyn-bwll pysgod y mae ei olion i'w gweld yn Bryant's Field, ar gwr de-orllewinol yr ardal, wedi'i fewnlenwi a bod datblygiadau trefol cychwynnol ar ffurf terasau strimynnog llinellol ar hyd lôn Gwaelod-y-Garth, a Stuart Terrace, Cromwell Terrace, a Tudor Terrace wedi'u cwblhau. Cynhwysai datblygiadau yn dyddio o'r cyfnod hwn ysgol ac ysbyty cyffredinol, yr Eglwys Gatholig, sef St.Mary's (1893-4, JS Hansom, yn yr arddull Seisnig Gynnar) a datblygiad trawiadol Park Terrace a filâu mawr gerllaw. Erbyn 1919, roedd yr ardal wedi datblygu i ffurfio prif faestref ddosbarth canol Merthyr Tudful ac ychwanegwyd rhagor o derasau yn yr ardal i'r dwyrain o'r rhodfa, i'r gogledd ac i'r de o Dane Street a Dane Terrace, ac adeiladwyd eiddo ychwanegol ar hyd y Grove. Datblygwyd y daliad yn gysylltiedig â Gwaelod-y-Garth ymhellach yn ystod y cyfnod. Mae'r mwyafrif o'r strwythurau trawiadol yn ne'r ardal yn dyddio o'r cyfnod ac maent yn cynnwys adeilad Baróc Edwardaidd pedwar llawr yr YMCA (1909-1911. Ivor Jones a Percy Thomas) nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd a Theml y Seiri Rhyddion â'i dylanwadau Clasurol (1910, CM. Davies o Ferthyr Tudful).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk