Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


002 Williamstown, Cae-Pant-Tywyll, Tydfil's Well a Morgan Town


HLCA 002 Williamstown, Cae-Pant-Tywyll, Tydfil's Well a Morgan Town Anheddiad gweithwyr sydd mewn cyflwr da: twf anheddiad diwydiannol cynnar cynllun llinellol a rheolaidd cymysg, gwaith adnewyddu trefol diweddar ar raddfa fach; cysylltiad agos â Gwaith Haearn Cyfarthfa; coridor trafnidiaeth ddiwydiannol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 002)

Ardal gymeriad Williamstown, Cae-Pant-Tywyll, Tydfil's Well a Morgan Town: tai gweithwyr pwysig cynnar a datblygiadau masnachol bach.

Crynodeb

Mae'r ardal dirwedd hon yn deillio o'r anheddiad gwaith haearn a oedd wedi'i leoli o amgylch Gwaith Haearn Cyfarthfa ar ddiwedd y 18fed ganrif, ac roedd eisoes wedi'i gwblhau i raddau helaeth erbyn 1836. Mae'n cynnwys enghreifftiau pwysig o dai gweithwyr cynnar a datblygiad masnachol bach ond pwysig yn Morgan Town.

Cefndir Hanesyddol

Datblygodd ardal dirwedd hanesyddol Williamstown, Cae-Pant-Tywyll, Tydfil's Well a Morgan Town ar ddiwedd y 18fed ganrif, fel anheddiad gwaith haearn wedi'i leoli o amgylch Gwaith Haearn Cyfarthfa. Datblygodd yr ardal ar wahân i brif graidd Merthyr Tudful i'r de (HLCA 001) i bob pwrpas, gyda thomenni yn ardal Abermorlais yn gwahanu'r ddau.

Erbyn 1814, cynhwysai'r anheddiad ddatblygiad strimynnog llinellol ar hyd Brecon Road o resi byr o fythynnod ar bob ochr, gan gynnwys Castle Square (Pandy Place) a'r ardal gyferbyn, sy'n cynnwys y tolldy; roedd Quarry Row, Bethesda Street hefyd yn eu lle yr adeg honno. Parhaodd yn anheddiad i ehangu ar ffurf datblygiadau strimynnog ar hyd Brecon Road. Cynhwysai nodweddion ychwanegol Bragdy Merthyr a'i bwll pysgod a Thramffordd Penydarren (HLCA 019) i ben y gamlas ar hyd Bethesda Street.

Roedd yr anheddiad wedi'i gwblhau i raddau helaeth erbyn 1836 a dengys tystiolaeth gartograffig yr anheddiad yn eithaf manwl. Cynhwysai'r anheddiad Castle Square a Tydfil's Well Street (Brecon Road) a Fishpond Street; Tolldy, tafarndai, ee y Lamb and Flag a'r Grawen Arms; capeli, ee Capel Bedyddwyr, ac ar Quarry Street (Quarry Row) Bragdy Merthyr, a phwll cysylltiedig, a thanerdy.

Cafwyd mân ychwanegiadau yn y cyfnod 1836-51 gan gynnwys adeiladu Bythynnod Williamstown, a gweddill Morgan Town. Roedd Park Row a'r Ysbyty Twymyn wedi'u codi erbyn 1875. Hyd nes i ardal is Cae-Pant-Tywyll i'r gorllewin o Brecon Road, a nodweddir bellach gan dai uwchraddol modern, gael ei hadnewyddu ar ddiwedd yr 20fed ganrif nid oedd fawr ddim newid i'w weld.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk