|
|
|
Gosodwyd y dirwedd hanesyddol bwysig hon a leolir yn
Ne Cymru ar y gofrestr genedlaethol trwy gonsensws gweithwyr proffesiynol
ym maes archeoleg. Enghraifft ydyw o rostir fynyddig uchel sydd wedi goroesi,
enghraifft sydd erbyn hyn yn mynd yn fwyfwy prin. Yn yr ardal dirwedd
hon ceir adnawdd archeolegol amrywiol a thematig tra chyfoethog yn cynrychioli
llawer o gyfnodau a mathau, sy'n dangos lefel uchel o ddiddordeb a pharhad
diwylliannol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae'r Tir Comin yn cael ei fygwth
gan amrywiaeth eang o asiantaethau, yn gyhoeddus ac yn breifat, ac yn
anffodus mae hyn yn digwydd ar adeg pan na ddeëllir gwerth a chyflwr
yr adnawdd archeolegol hwn yn llawn, yn arbennig yn nhermau'r dirwedd.Felly,
mae'n amserol bod Cadw wedi ysgogi, comisiynu ac ariannu'r prosiect hwn
fel rhan o fenter ehangach sy'n cynnwys Cymru gyfan ac mae hyn i'w groesawu.
Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn darparu'r catalydd ar gyfer rhoi
ystyriaeth frys i'r gwaith o ddiogelu Tir Comin Gelli-gaer yn y dyfodol.
|
Tir
comin gelli-gaer
|
|
|
|
||