|
|
|
Tir
comin gelli-gaer
|
Disgrifiad
o'r dirwedd
|
|
|
Mae ardal dirwedd Tir Comin Gelli-gaer yn enghraifft sy'n mynd yn fwyfwy prin o ardal o rostir fynyddig uchel sydd wedi gorosi yn Ne-ddwyrain Cymru, ardal lle y ceir adnawdd archeolegol amrywiol tra chyfoethog. Mae'r Tir Comin a'r ardal a leolir yn union i'r de-ddwyrain tua 8 km o hyd ac 1 km o led ac mae'n ymestyn o anheddiad hynafol canolog Gelli-gaer i'r de-ddwyrain hyd at gopaon Pen Garnbugail a Mynydd Fochriw yn y gogledd-orllewin. Mae pen y gefnen y mae'r Tir Comin yn ymestyn drosti yn graddol godi o ryw 250m uwchben OD yn Gelli-gaer i dros 470m uwchben OD ar gopaon crwn Pen Garnbugail a Mynydd Fochriw. Fodd bynnag, ar y naill ochr a'r llall i'r Tir Comin, a'r tu allan i'r ardal a ddisgrifir yma, mae'r llethrau'n disgyn yn serth i Gwm Bargoed i'r gorllewin ac i Gwm Bargoed Rhymni i'r dwyrain, sef dwy isafon i brif gymoedd afon Taf ac afon Rhymni. Mae'r ardal yn amrwyio gryn dipyn o lwyfandir
rhostirol y Tir Comin i'r gogledd-orllewin, lle y ceir ffermydd unig a
phorfa amgaeëdig wedi'i gwella ar ei lethrau gorllewinol a'i lethrau
dwyreiniol, i dir ffermio amgaeëdig y de-ddwyrain a phentref gwledig
dymunol Gelli-gaer sydd erbyn hyn gerllaw tirwedd drefol a diwydiannol
yn bennaf sy'n perthyn i Gwm Rhymni. Mae'r dirwedd yn amrywio o ran ei
ffurf a'i chynnwys archeolegol a hanesyddol, sy'n tystio i gyfnod di-dor
o anheddu yn yr ardal hon sy'n dra nodedig . |
||