|
|
|
Tir
Comin Gelli-Gaer
|
Disgrifiad
o'r dirwedd
|
|
|
Mae pentref Gelli-gaer yn cynnwys craidd yn dyddio o'r cyfnod cyn y Chwyldro Diwydiannol, sydd wedi'i ganoli o amgylch Eglwys gynnar Catwg Sant ac olion twmpath castell, sy'n dyddio o'r 12fed ganrif yn ôl pob tebyg. Mae cyrion gogleddol Gelli-gaer yn cynnwys cloddweithiau ac olion claddedig safleoedd milwrol Rhufeinig a nodweddion cysylltiedig. Yng nghanol y cyfadail saif olion gweladwy a sylweddol caer o gerrig sy'n perthyn i ddechrau'r ail ganrif. Mae'r gaer hon, y mae ei henw Rhufeinig wedi'i golli, wedi'i lleoli ar safle uchel a strategol ar esgair lydan Cefn Gelli-gaer. Mae hefyd wedi'i lleoli o bobtu i linell y brif ffordd Rufeinig sy'n rhedeg i'r de o Aberhonddu, trwy Dir Comin Gelli-gaer i Gaerffili a Chaerdydd. Gellir olrhain darn o'r ffordd sydd mewn cyflwr da am gryn bellter ar ochr ddwyreiniol Pen Garnbugail. I'r gogledd-orllewin o'r gaer ceir cloddwaith hirsgwar mawr sy'n amgáu ardal o ryw 2.4ha, sy'n cynrychioli olion caer gynharach a mwy o faint, a adeiladwyd fel rhan o'r ymgyrchu a'r gorsafu milwrol gan y Rhufeiniaid yn ystod y ganrif gyntaf yn Ne Cymru. Ychwanegir ymhellach at y dimensiwn Rhufeinig sylweddol sydd yn yr ardal dirwedd hon gan olion o leiaf pedwar cloddwaith Rhufeinig sydd mewn cyflwr da a leolir 2 km i'r gogledd ar y Tir Comin, a oedd yn orsafoedd ymarfer milwrol bach yn ôl pob tebyg. |
||