Y Rhufeiniaid yn Ne Cymru

Rhagymadrodd

Bu’r ardal sydd bellach yn ffurfio congl dde ddwyrain Cymru dan reolaeth y Rhufeiniaid am tua thair canrif a hanner - yr un faint o amser ag sydd rhyngom ni â’r Rhyfel Cartref. Adeg y goncwest Rufeinig roedd Prydain ym meddiant cyfres o lwythau, rai ohonynt yn gyfeillgar tuag at y Rhufeiniaid tra’r oedd eraill yn eu gwrthwynebu’n chwyrn. Cofnododd awduron Rhufeinig bod y Silwriaid yn ein hardal ni yn elyniaethus a rhyfelgar, ac yn achosi cryn drafferth iddyn nhw. Roedd byddin y Rhufeiniaid wedi cyrraedd ochr ddwyreiniol tiriogaeth y Silwriaid erbyn tua 47OC, ond ni chwblhawyd y goncwest tan ganol y 70au.

Yn dilyn y goncwest, ni cheir hanes am y Silwriaid, felly mae’r hyn a wyddom amdanyn nhw yn deillio o’r archaeoleg. Adeiladodd byddin y Rhufeiniaid rwydwaith o gaerau a ffyrdd er mwyn sefydlu rheolaeth dros yr ardal, a hwy oedd yn gyfrifol yn wreiddiol am weinyddu. Fodd bynnag, polisi’r Rhufeiniaid oedd datganoli llywodraeth leol i’r cymunedau lleol cyn gynted ag y gellid ymddiried ynddyn nhw. Ar ddechrau’r ail ganrif cafodd adeiladau gweinyddol - #fforwm a basilica (sgwâr colofnresog gyda neuadd wedi’i rhannu’n gorff ac eiliau) gydag adeiladau eraill gan gynnwys siambr y cyngor - eu hadeiladu yn anheddiad newydd Venta Silurum (Caerwent), sy’n dangos bod hyn wedi digwydd. Byddai’r cyngor llwythol (yr ordo) yn cynnwys dynion lleol amlwg (nid oedd menywod yn gymwys), a rhai o leiaf ohonynt mae’n debyg yn feibion neu’n wyrion i’r penaethiaid a oedd wedi gwrthwynebu ymlediad y Rhufeiniaid. Mae’n bosibl eu bod hefyd wedi cynnwys disgynyddion milwyr a oedd wedi ymddeol ac wedi priodi i mewn i deuluoedd lleol.

Parhaodd y fyddin i feddiannu o leiaf rai o’r caerau hyd at y 3edd a’r 4edd ganrif - ail-adeiladwyd Caerdydd yn unol â syniadau diweddaraf pensaernïaeth filwrol tua diwedd y 3edd ganrif. Fodd bynnag, ni wyddom ai’r rheswm am hyn oedd bod cefn gwlad yn dal braidd yn ansefydlog ynteu oherwydd bod ar y wladwriaeth angen rhywle yn gartref i’r milwyr. Darparwyd amddiffynfeydd i Gaer-went nad oeddent, ar y cychwyn, ond mater o falchder dinesig yn unig, ond mae’r ffaith bod rhwystr wedi’i roi wrth gât y de a rhagfuriau wedi’u hadeiladu ganol y 4edd ganrif yn awgrymu bod yna wir angen am amddiffynfeydd erbyn hynny. Ai’r rheswm am hyn oedd yr aflonyddwch yng nghefn gwlad ynteu’r bygythiad y byddai ysbeilwyr yn cyrraedd o’r tu hwnt i Fôr Iwerddon? Fodd bynnag, mae diffyg crochenwaith a darnau arian o’r rhan fwyaf o ffermydd yn ystod ail hanner y 4edd ganrif yn awgrymu naill ai bod eu trigolion wedi mynd a’u gadael ynteu fod y rheiny bellach yn hunangynhaliol a heb angen prynu nwyddau tŷ.