Adolygiad o Gyflawni Amcanion LICC

Yn ein cynigion prosiect ar gyfer 2008—2009 gwnaethom nodi sut y byddai’r rhain ymhlith pethau eraill yn mynd i’r afael â rhai o amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru a, thrwy hynny, o fudd i boblogaeth De Ddwyrain Cymru. Ar ôl cwblhau’r gwaith rydym bellach yn adolygu llwyddiant y prosiectau wrth fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae’r rhaglen wedi golygu bod modd cadw staff Amgylchedd Hanesyddol proffesiynol graddedig medrus yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae’r gwaith a wneir gan y staff hwn yn cynhyrchu cyflogaeth archeolegol a chysylltiedig arall boed gan yr Ymddiriedolaeth neu sefydliadau eraill. Felly, er enghraifft, mae cyngor a roddwyd gan y gwasanaeth rheoli cynllunio archeolegol (3 staff) sy’n mynnu bod ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth ychwanegol am yr adnodd archeolegol wedi golygu bod contractwyr archeolegol wedi’u comisiynu gan yr ymgeiswyr. Yn yr un modd, roedd amodau ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio a oedd yn mynnu bod gwaith archeolegol yn cael ei wneud yn ystod y datblygiad hefyd yn mynnu bod archeolegwyr yn cael eu cyflogi. Mae’n anodd cyfrifo sawl swydd amser llawn a rhan-amser a grëwyd neu a gynhaliwyd gan y broses gynllunio, ond amcangyfrifir bod cloddiadau ac ymchwiliadau eraill a gynhaliwyd gan sefydliadau archeolegol, yn rhai mawr a bach, ar draws y rhanbarth wedi arwain at gynhyrchu cyfwerth â 30-40 o swyddi amser llawn. Graddedigion, a chanddynt raddau pellach neu gymwysterau proffesiynol ychwanegol weithiau, sy’n dal mwyafrif y swyddi hyn.

Nid yw’n hawdd cofnodi effaith rhai darnau o’n gwaith, ac efallai na fydd byth yn hawdd, ac mae prinder unrhyw ddata astudiaeth hydredol ystyrlon. Yn wir i asesu effaith llawer o’n gwaith yn effeithiol byddai angen defnyddio mecanweithiau ar wahân i’r rheini sydd ar gael yng nghwmpasiad, cost arwahanol, a therfynau amser cyllid prosiect. Dyna fyddai’n wir ar gyfer ein prosiect Gwaith Haearn sydd â chanlyniadau clir a phwysig sy’n cefnogi cyflawni pob math o amcanion cenedlaethol a lleol. Fodd bynnag, er mwyn mesur y rhain mewn modd ystyrlon byddai angen cyfnod maith o arolwg a gynlluniwyd yn ofalus ac a ariannwyd yn briodol.

Ymdrechwyd yn 2007—2008 i gael adborth drwy holiaduron mewn digwyddiadau allgymorth. Fodd bynnag, roedd gwrthwynebiad y cyhoedd i lenwi ffurflenni yn golygu na ellid casglu digon o ddata manwl i fod yn ystadegol arwyddocaol. Yn arbennig, cawsom gymaint o anhawster yn perswadio’r cyhoedd i lenwi holiaduron safonol ar foddhad cwsmeriaid fel y gallai’r ymdrech i wneud hyn, hyd yn oed, fod wedi niweidio canlyniad bwriedig yr ymdrech i’w mesur.

Ers hynny rydym wedi cynllunio holiadur symlach i brofi poblogrwydd gweithgareddau o ran ystod oedran, ac a wnaethant fwynhau’r digwyddiad ar y cyfan. Anogir pobl i’w llenwi drwy wobrau; mae hyn yn cael ei brofi. Yn y cyfamser, mae defnyddio dulliau eraill fel siartiau seren yn dangos yn gyflym a ydym yn ‘taro deuddeg’ a bu’r canlyniadau’n gadarnhaol iawn ar y cyfan.

Siart Seren Diwrnod Agored GGAT
Siart Seren Diwrnod Agored GGAT

Mae’r mesuriadau’n gliriach ar gyfer gwaith cynllunio, felly yn 2008-2009 roedd 68 o achosion lle bu angen gwybodaeth ychwanegol am yr adnodd archeolegol gan yr ACLl, 444 caniatâd cynllunio wedi’u rhoi ag amodau yn mynnu bod gwaith archeolegol yn cael ei wneud yn ystod y datblygiad a 166 o adroddiadau am waith archeolegol a wnaed yn y rhanbarth wedi’u cofrestru gan y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. Rhoddwyd cyngor manwl ar effaith datblygiad arfaethedig ar yr adnodd archeolegol ar 1530 o geisiadau. Er bod baich yr achosion cyffredinol yn llai oherwydd effeithiau’r dirwasgiad, dim ond ychydig a ostyngodd ar gyfer cymathu cronfa ddata a gwaith paratoi caniatâd amodau cynllunio.

Bu ein Gwasanaeth Rheoli Cynllunio Archeolegol yn cynorthwyo’r holl Awdurdodau Unedol yn y Rhanbarth i ddatblygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol gan sicrhau bod yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei ystyried yn llawn wrth baratoi’r CDLlau a bod Asesiad Amgylcheddol Strategol yn cael ei gynnal. Ni fydd canlyniadau’r gwaith hwn yn cael eu cydnabod yn llawn nes bod y CDLlau wedi’u mabwysiadu ond gwnaethom fynychu mwy nag 20 o gyfarfodydd a pharatoi sylwadau manwl ar 12 dogfen mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol.

Hefyd wrth hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy mae’r Ymddiriedolaeth wedi cyfrannu at ymgynghoriad pellach ar y Mesur Morol, gwneud ymatebion manwl iawn i Asiantaeth yr Amgylchedd ar Gynlluniau Rheoli Risg Llifogydd, a thrwy ei gymorth i’r Grwp Amgylchedd Hanesyddol a’i chynrychiolaeth arni mae wedi cyfrannu tuag at ddatblygu Datganiad Strategol Amgylchedd Hanesyddol i Gymru. Yn ymylol rydym hefyd wedi rhoi sylwadau ar y Mesur Treftadaeth drafft a dynnwyd yn ôl bellach a’r Safonau ar gyfer Archifau Cymru.

Er bod y berthynas waith â’r Awdurdodau Unedol wedi’i hen sefydlu ar gyfer gwaith rheoli cynllunio archeolegol, mewn meysydd eraill o waith amgylchedd hanesyddol mae gennym bartneriaethau cryf â rhai, ond ar gyfer eraill mae llawer o sylfeini i’w gosod o hyd. Mae angen annog datblygiad gan Awdurdodau Unedol ac adrannau llywodraeth eraill a sefydliadau a gefnogir gan y llywodraeth â chylchoedd gwaith sy’n effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol, neu sy’n elwa ar ryngweithio ag ef, o gyfeiriadau a safbwyntiau ‘o’r brig i’r gwaelod’ yn ogystal ag ‘o’r gwaelod i fyny’. Serch hynny, gellir ystyried bod y partneriaethau rydym wedi’u datblygu â chyrff llywodraeth ar lefel leol a chenedlaethol, sefydliadau trydydd sector a chyrff sector preifat yn cynorthwyo’r broses o gyflawni amcanion ar gyfer cenedl gref a hyderus a chymdeithas lewyrchus.

Parhaodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu gwybodaeth rheoli treftadaeth drwy gynllun Tir Gofal, sy’n hyrwyddo cadwraeth yr amgylchedd hanesyddol. Yn yr un modd, mae’r sgriniad cychwynnol o geisiadau Gwell Coetiroedd i Gymru yn caniatáu ar gyfer adnabod y rheini lle bo angen gwybodaeth rheoli treftadaeth. Er bod cysylltiadau â’r Comisiwn Coedwigaeth wedi’u hen sefydlu, a bod cyfleusterau yn eu lle i alluogi gwaith maes dilynol i wirio data a gasglwyd ar fwrdd gwaith os oes angen, mae trosglwyddo cyfrifoldeb am y gwaith Tir Gofal o Gyngor Cefn Gwlad Cymru i’r Isadran Taliadau Gwledig wedi gweld y gwaith hwn yn darfod a gostyngiad cydredol yn amddiffyniad yr Amgylchedd Hanesyddol gwledig.

Er nad oes gennym ystadegau effaith ar gyfer rhai meysydd o’n gwaith efallai, nac yn gallu eu cynhyrchu, gallwn wneud nifer o sylwadau ar sut mae rhai prosiectau a gweithgareddau wedi’u cyflenwi i ofynion dymunol.

Mae ein prosiect Gwaith Haearn yn cyfrannu at lawer o amcanion Cymru’n Un, gyda data a ddaw o’r prosiect ar gael i lywio penderfyniadau strategol. Mae’r prosiect wedi caniatáu ar gyfer gwneud datganiadau awdurdodol ar arbenigrwydd Rhanbarth De Ddwyrain Cymru o ran ei dirweddau a’i dreftadaeth ddiwydiannol, gan lywio’r Cynllun Gofodol. Mae’r prosiect wedi’i ailffurfio i gysylltu’n benodol ag Ardal Menter Blaenau’r Cymoedd; un o elfennau arbennig y rhaglen oedd rhoi gwybod i’r rheini dan sylw am ganlyniadau’r prosiect hyd yma, pwysigrwydd y safleoedd, ac yn fwy arbennig y tirweddau gan gynnwys llawer o fân elfennau a ddiystyrir yn aml, y mae eu habsenoldeb yn lleihau cyfanrwydd a, sut y gall astudio data yn gynnar a’i ymgorffori mewn cynllunio strategol osgoi gwrthdaro diweddarach.

Bu’r prosiect hefyd yn gyfle i gynhyrchu data gwybodus ac awdurdodol i’w ddefnyddio gan bob math o gwmnïau wrth gyflawni’r Weledigaeth a’r Egwyddorion Strategol (yn arbennig gweledigaethau 1 a 2) a chynorthwyo’r Strategaeth Weithredu (yn arbennig Datblygu Ymdeimlad o Le, Cyfeirio Diwylliannol, ac yn fwy arbennig Profiad Treftadaeth Ddiwydiannol De Cymru, Dehongli’r Dirwedd Ddiwylliannol), fel y nodir yn y Strategaeth Twristiaeth Ddiwylliannol, gan fod y prosiect yn helpu i hybu ymwybyddiaeth am arbenigrwydd rhai cymunedau.

Yn yr un modd mae’r gwaith a wnaethom i ddeall Cymeriad Trefol Aberdâr yn cyfrannu at lawer o strategaethau Cymru’n Un, efallai’n fwyaf arwyddocaol y Cynllun Gofodol, a’r Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru. Roedd pennu nodweddion trefol, mewn perthynas â’r cyntaf, yn galluogi datganiadau awdurdodol i gael eu gwneud ar arbenigrwydd yr ardal, ac mewn perthynas â’r olaf mae’n darparu arf i fedru rhoi camau ar waith i gynnal a gwella ansawdd ac amrywiaeth y dirwedd hanesyddol a rheoli effaith er mwyn diogelu cymeriad a nodweddion diwylliannol unigryw, gan gynnwys stoc adeiladau.

Wrth hyrwyddo diwylliant cyfoethog ac amrywiol, mae’r Ymddiriedolaeth wedi dechrau cyfrannu at hybu ymwybyddiaeth am gyfoeth tirweddau hanesyddol ac eglwysi yn ein hardal drwy baratoi arddangosfeydd newydd. Mae’r cyntaf eisoes wedi’i gosod mewn sawl lle ac mae’r llall wedi’i gynllunio i helpu i hyrwyddo menter Drysau Agored yn 2008—2009. Gellir gweld copïau o’r arddangosfeydd ar wefan yr Ymddiriedolaeth. Mae cynhyrchu taflenni dwyieithog a mowntio tirwedd hanesyddol Llancarfan, Bro Morgannwg a thirwedd hanesyddol Dyffryn Gwy Isaf ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn bodloni Amcanion LlCC ‘Cymru’n Un Rhaglen Flaengar ar gyfer Llywodraethu Cymru’ drwy ledaenu canlyniadau’r prosiectau, sy’n cryfhau, hyrwyddo a diogelu diwylliant a threftadaeth gyfoethog ac amrywiol Cymru. O ran ‘Amgylchedd Hanesyddol Cymru Tuag at Ddatganiad Strategol’ mae lledaenu’r prosiectau HLC hyn yn helpu i roi arbenigrwydd i gymunedau arbennig. Mae’r prosiectau a ledaenir hefyd yn gymesur â llawer o ymrwymiadau penodol LlCC, fel y Cynllun Gofodol a’r Strategaeth Twristiaeth Ddiwylliannol drwy ddatblygu, neu yn wir ailddeffro ymdeimlad o le.

Yn fwy cyffredinol, mae llawer o’n gweithgareddau allgymorth a gefnogir gan Cadw, ein presenoldeb mewn sioeau, arddangosfeydd, cyflwyniadau gwe, teithiau cerdded, darlithiau ac ati yn cefnogi dysgu gydol oes. Yn arbennig yn 2008—2009 cyfrannodd ein prosiect rheoli treftadaeth at yr agenda hwn drwy gyflenwi gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol i gymunedau ac aelodau unigol o’r cyhoedd, a’u cynorthwyo i ddatblygu prosiectau i ymchwilio i hanes ac archeoleg eu hardaloedd. Rydym hefyd wedi cyfosod gwybodaeth o weithgareddau parhaus yr Ymddiriedolaeth mewn fformatau hawdd eu hailddefnyddio gan alluogi mathau electronig a thraddodiadol o ddosbarthu gwybodaeth. Mae hyn felly wedi ein galluogi i ddefnyddio Web 2.0 yn ddynamig yn ogystal â chyflwyniadau wyneb yn wyneb.

Yn ogystal â rhoi cyfleoedd i wirfoddolwyr gael profiad o archwilio archeolegol mae ein prosiectau â ffocws cymunedol wedi darparu cyflwyniad gwerthfawr i waith maes archeolegol i fyfyrwyr sy’n ategu eu hastudiaethau academaidd yn y brifysgol ac yn darparu sgiliau newydd iddynt. Drwy integreiddio staff proffesiynol, gwirfoddolwyr, myfyrwyr ac academyddion drwy ddiddordeb cyffredin, cryfhawyd cysylltiadau a synergedd rhwng haenau traws-gymdeithasol.

Yn olaf, edrychwn ymlaen at gyflwyno Datganiad Strategol ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru a ragwelir gyda chynlluniau gweithredu ategol yn gysylltedig â chyflawni amcanion traws-sector er mwyn gwella Cymru a’i phreswylwyr. Drwy adrodd am ein cyfraniad at wella ansawdd bywyd yn y wlad mewn perthynas â chynllun cytûn ar gyfer y sector, dylid cael crynoder nad yw’n ymarferol ar hyn o bryd.