Archaeological Planning

Gwasanaethau Cynllunio Archaeolegol

GGAT Archaeological Planning staff monitoring archaeological development work

Y Polisi Monitro

Yn gyffredinol, gellir crynhoi diben monitro gan yr ymgynghorydd archaeolegol rhanbarthol, ar ran yr Awdurdod Cynllunio Lleol, fel a ganlyn:-

  • Sicrhau bod safonau archaeolegol yn cael eu cynnal (gweler Standards in British Archaeology, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr).
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau a gofynion cynllunio.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â'r briff a ddarparwyd gan yr ymgynghorydd archaeolegol a/neu'r fanyleb neu gynllun y prosiect a gyflwynwyd gan yr ymarferydd archaeolegol i'w gymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
  • Sicrhau bod yr wybodaeth a amlygir gan y gwaith yn berthnasol i'r broses gynllunio barhaus.
  • Sicrhau bod unrhyw argymhellion a wneir gan yr ymarferydd archaeolegol yn rhesymol o ran cynllunio.
  • Sicrhau bod unrhyw argymhellion pellach sy'n deillio o'r gwaith, ac a wneir gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (yn seiliedig ar gyngor eu hymgynghorwyr archaeolegol) wedi'u seilio ar wybodaeth fanwl, a'u bod yn rhesymol o ran cynllunio.
  • Helpu i lunio strategaeth liniaru archaeolegol, lle bo hynny'n ofynnol, a allai ddiogelu'r adnodd archaeolegol, gan alluogi'r datblygiad a ganiateir ar yr un pryd.

Ein tîm Rheoli Cynllunio Archaeolegol sy'n gwneud y gwaith monitro. Bydd y swyddogion sy'n ymgymryd â'r gwaith monitro yn meddu ar y profiad priodol, a byddant ar gael i drafod unrhyw agwedd ar fonitro. Bydd y gwaith monitro fel arfer yn cael ei wneud ar adegau priodol yn ystod y gwaith maes, ac ar ôl i adroddiadau ar y gwaith gael eu llunio. Yn achos gwaith cloddio mwy, bydd y broses o fonitro gwaith ôl-gloddio yn parhau hyd nes bo'r archif wedi cael ei adneuo.

Er mwyn i'r gwaith monitro gael ei gwblhau, dylai'r ymarferydd archaeolegol fod wedi paratoi manyleb neu gynllun prosiect, a dylai hwn fod wedi cael ei gymeradwyo gan ein tîm rheoli cynllunio archaeolegol ar ran yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Felly, mae'r gwaith archaeolegol yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni'r fanyleb neu gynllun y prosiect a gymeradwywyd ar ei gyfer.