Archaeological Planning

Gwasanaethau Cynllunio Archaeolegol

GGAT Archaeological Planning staff monitoring archaeological development work

Gwasanaethau Cynllunio

Yn rhan o'r broses gynllunio, mae'n rhaid ystyried yr effeithiau ar yr amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i newid arfaethedig i'r defnydd tir. Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu cyngor archaeolegol i'r deuddeg awdurdod cynllunio lleol yn Ne-ddwyrain Cymru (yn ogystal ag i ran o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Mae wedi eu cynorthwyo i lunio polisïau i amddiffyn yr amgylchedd archaeolegol yn eu cynlluniau lleol, ac wedi datblygu canllawiau cynllunio atodol ar archaeoleg ar gyfer rhai ardaloedd awdurdod.

Darperir polisïau a chyngor ym Mholisi Cynllunio Cymru Pennod 6: Yr Amgylchedd Hanesyddol, a Chyngor Technegol Nodyn 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol. Mae diagram sy'n dangos sut y mae'r rhain yn cyd-fynd â hierarchaeth y ddeddfwriaeth a rheoliadau i'w gweld ar wefan Cadw. Ar ran yr awdurdodau cynllunio lleol yn ein rhanbarth, mae ein tîm rheoli cynllunio archaeolegol yn darparu cyngor manwl i'r awdurdodau hyn ar gynllunio gwaith achos, ac yn cyhoeddi briffiau ar gyfer gwaith, yn gwirio manylebau, yn monitro gwaith maes, ac yn cymeradwyo'r adroddiadau sy'n deillio o hynny, p'un a ymgymerwyd â hyn cyn gwneud y penderfyniad neu o ganlyniad i amod sydd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio. Mae gwaith yn cael ei wneud yn unol â Chod Ymddygiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru a'r Safon a'r Canllawiau ar gyfer Cyngor Archaeolegol gan Wasanaethau'r Amgylchedd Hanesyddol, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr.

Mae'r tîm yn cadw cofnodion o'r gwaith sy'n cael ei wneud, ac yn helpu i sicrhau bod gwaith archaeolegol ar gael i'r cyhoedd, naill ai trwy adneuo adroddiadau ymarferwyr yn y Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol, neu drwy gyhoeddi adroddiad llawn.

Os hoffech drafod eich gofynion, cysylltwch â:

Dogfennau pdf y Gwasanaethau Cynllunio Archaeolegol i'w lawrlwytho

Canllawiau ar Archaeoleg a Chynllunio yn Ne Cymru

Safonau Gwasanaethau Curadurol GGAT

Taflen Archaeoleg a'ch Cais Cynllunio

planning@ggat.org.uk

Angen cymorth i ddod o hyd i Sefydliad Archaeolegol sydd wedi cofrestru gyda'r CIfA?

Sefydliad yr Archaeolegwyr

Canllaw byr i Archaeoleg a Chynllunio