Côd Ymddygiad Curaduron Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru

Gwasanaethau Cynllunio Archaeolegol

Archaeological Planning Officer considering the implications to the archaeological heritage from a planning application

Gwasanaethau Cynllunio Archaeolegol pdf

Mae nodion yn saesneg yn y traswslwytho cynllunio

Gwasanaethau Cynllunio Archaeolegol

Côd Ymddygiad Curaduron Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru

Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 60/96 - Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol: Archaeoleg - darperir cyngor ar sut i drin materion archaeolegol oddi fewn i'r system gynllunio. Ceir canllawiau ym mharagraffau 134-140 yng Nghanllawiau Cynllunio Polisi Cynllunio (Cymru): 1996. Mae'r cylchlythyr yn cydnabod y rôl bwysig a gymerir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn darparu cyngor i Awdurdodau Cynllunio Lleol.

Sefydlwyd y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru yng nghanol yr 1970au. Cwmnïau cyfyngedig annibynnol ydynt sydd â statws elusennol gyda staff archaeolegol proffesiynol yn gweithio iddynt yn cynnig gwasanaeth archaeolegol eang oddi fewn i'w hardaloedd. Mae eu gwaith yn cynnwys cynnal a chadw'r Cofnod o Safleoedd a Cofadeiliau, rhoi cyngor archaeolegol a gweithredu cynlluniau er mwyn lleihau dylanwad datblygu ar olion archaeolegol.

Felly, gall Ymddiriedolaeth Archaeolegol gynnig cyngor ar faterion archaeolegol fel rhan o'r broses gynllunio (curadurol) a gwneud tendr cystadleuol am gytundebau sy'n deillio o'r cyngor hwnnw (cytundebu). Caiff y côd ymarfer hwn ei lunio ar gais Cadw: Cofadeiliau Hanesyddol Cymru sy'n adnabod y gweithdrefnau y mae'r Ymddiriedolaethau wedi'u cyflwyno i sicrhau bod yna wahaniaeth clir rhwng eu rôl ymgynghorol (curadurol) a'r rôl cytundebu. Mae'n gweithio ar y cyd â, yn hytrach na disodli, mathau eraill o gôd ymarfer ac ymddygiad a safonau proffesiynol.

Cydnabyddir staff curadurol Ymddiriedolaethau Curadurol Cymru yn aelodau o Gymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol. Darperir nawdd ar gyfer gwaith curadurol yr Ymddiriedolaethau gan Cadw: Cofadeiliau Hanesyddol Cymru, Comisiwn Brenhinol Cofebion Hynafol a Hanesyddol Cymru ac Awdurdodau Cynllunio Lleol.

Côd Ymarfer