Gwasanaethau Cynllunio Archaeolegol
Ar hyn o bryd mae de ddwyrain Cymru yn ardal lle mae yna ehangu ac ailddatblygu mawr. Mae'r llywodraeth wedi cydnabod y bygythiad i'r adnoddau archaeolegol oherwydd y datblygu a bellach rhoddir ystyriaeth o bwys iddo yn y broses gynllunio. Yr Ymddiriedolaeth yw'r ymgynghorwr i'r deuddeg awdurdod cynllunio lleol (a rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) yn y rhanbarth. Mae wedi eu cynorthwyo hwy i ffurfio polisïau yn eu cynlluniau datblygu strategol, sy'n ceisio diogelu'r adnodd archaeolegol ac ar hyn o bryd mae'n cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol. Fel rhan o'r swyddogaeth hon mae Adran Cynllunio Archaeolegol yn archwilio rhyw 20,000 o geisiadau cynllunio yn flynyddol er mwyn sicrhau y gweithredir y polisïau hyn yn iawn.
Mewn rhai achosion, efallai bydd angen i'r ymgeisydd gomisiynu contractiwr archaeolegol i werthuso potensial archaeolegol y safle a gellir dod o hyd i restr o gontractwyr archaeolegol sydd ar gael i weithio ar wefan IFA. Mae'r Adran yn darparu briffiau ar gyfer y gwaith, manylebion archwilio, monitro'r gwaith maes a chymeradwyo'r adroddiadau ar ran LPA. Mae'r gwaith archaeolegol sydd i'w wneud wedi penderfynu ar y ceisiadau cynllunio hefyd yn amodol ar gymeradwyaeth yr Adran Cynllunio Archaeolegol. Mae holl waith yr Adran yn cael ei wneud yn unol â Chôd Ymddygiad 'Curaduron' yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru.
Bwriad yr adran hon yw i ddod â gwaith archaeolegol i ofod cyhoeddus naill ai trwy osod adroddiadau'r contractwr yn y Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol, neu trwy gyhoeddi adroddiad llawn.
